Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Perthnasoedd ar-lein
- Bydd rhai pobl yn ei chael yn haws cyfathrebu ar-lein gan nad yw’n gyfathrebu wyneb-yn-wyneb, a gallan nhw fod yn agored ac yn onest heb ofni cael eu beirniadu, felly mae’n hawdd dod yn ffrindiau â rhywun ar-lein.
- Gall y Rhyngrwyd fod yn ffordd wych o gyfarfod â phobl newydd a dod yn ffrindiau â phobl sydd â diddordebau tebyg.
- Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd pawb y byddwch chi’n siarad â nhw yn dweud y gwir ac mae angen ichi fod yn ofalus wrth siarad ar-lein.
- Mae yna nifer fach o bedoffiliaid (troseddwyr rhyw plant) sy’n esgus eu bod nhw’n bobl ifanc mewn ystafelloedd sgwrsio er mwyn ’paratoi’ pobl ifanc ar gyfer cael eu cam-drin yn rhywiol. Bydd y bobl yma fel arfer yn esgus eu bod nhw’n ifanc eu hunain gyda diddordebau tebyg i’ch rhai chi, er mai dynion mewn oed ydyn nhw fel arfer, i geisio cael y person maen nhw’n dod yn ffrindiau ag ef neu hi i gyfarfod â nhw.
- Yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig, mae 25 o bobl ifanc (22 o ferched a thri o fechgyn) wedi rhoi gwybod bod pobl roedden nhw wedi mynd i gyfarfod â nhw ar ôl dod yn ffrindiau â nhw ar y Rhyngrwyd wedi’u treisio neu ymosod arnyn nhw yn rhywiol. Mae’n bosib bod y ffigur yma’n uwch gan bod rhai pobl ifanc yn gwrthod rhoi gwybod am y digwyddiadau oherwydd eu bod nhw’n teimlo embaras neu ofn.
- Os bydd rhywun yn dangos deunydd sy’n rhywiol iawn ei natur ichi ar y Rhyngrwyd, neu os byddan nhw’n siarad â chi mewn modd amhriodol, fe ddylech chi ddweud wrth eich rhieni a chysylltu â’r heddlu. Peidiwch â theimlo embaras. Nid eich bai chi ydyw, ac ni fyddwch chi’n mynd i unrhyw helynt.
- Mae yna ffyrdd o amddiffyn eich hun pan fyddwch chi’n siarad â phobl ar-lein.
- Peidiwch byth â rhoi rhif eich ffôn neu’ch ffôn symudol, cyfeiriad eich cartref nac enw eich ysgol dan unrhyw amgylchiadau.
- Ceisiwch gadw draw o ystafelloedd sgwrsio preifat lle byddwch chi’n sgwrsio un-i-un. Trwy aros o fewn y prif ystafell sgwrsio gyhoeddus, gall eraill weld eich sgwrs ac rydych chi’n fwy diogel.
- Cofiwch, dieithriaid yw’r bobl rydych chi’n siarad â nhw, waeth pa mor aml y byddwch chi’n siarad â nhw, felly peidiwch byth â rhoi gormod o fanylion personol iddyn nhw
- Os byddwch chi’n penderfynu cyfarfod â rhywun sydd wedi dod yn ffrind ar-lein, PEIDIWCH BYTH â MYND AR EICH PEN EICH HUN. Ewch ag oedolyn i’ch canlyn bob amser er eich diogelwch eich hun, hyd yn oed os nad ydych chi’n poeni. Peidiwch â theimlo embaras ynglŷn ag amddiffyn eich hun – os yw’ch ffrind newydd yn ddiffuant, ni fydd ots ganddo neu ganddi. Cofiwch, dieithryn yw’r person yma o hyd, felly cadwch yn ddiogel bob amser.
- Waeth pa mor hen ydych chi, fe allech chi fod mewn perygl, felly ewch â rhywun i’ch canlyn BOB AMSER.
Mynd ar ddêt trwy gyfleuster ar-lein
- Mae mynd ar ddêt trwy gyfleuster ar-lein wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar ac fe all fod yn ffordd dda o gyfarfod â phartneriaid posib, yn enwedig os ydych chi’n swil neu’n brysur iawn. Cofiwch, er eich bod chi o bosib yn cyfarfod â rhywun trwy asiantaeth ar-lein, dieithriaid ydyn nhw ac mae’n rhaid ichi feddwl am eich diogelwch eich hun bob amser.
- Mae yna ychydig o ragofalon y gallwch chi eu cymryd cyn mynd ar ddêt:
- EWCH â RHYWUN I’CH CANLYN BOB AMSER. Gallan nhw gadw llygad o bellter i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel ac yn hapus.
- Trefnwch i gyfarfod mewn lle cyhoeddus bob amser, fel bwyty neu ali fowlio er enghraifft. Peidiwch byth â chyfarfod yn nhŷ rhywun neu adael iddyn nhw gyfarfod â chi yn eich tŷ chi.
- Peidiwch byth â rhoi cyfeiriad eich cartref neu rif eich ffôn symudol iddyn nhw.
- Dywedwch wrth bobl eraill lle rydych chi’n mynd bob amser, a dywedwch pa amser rydych chi’n bwriadu bod yn ôl.
- Gwnewch atgoffa pobl o rif eich ffôn symudol cyn ichi adael.




