Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Perthnasoedd o'r un rhyw
- Nid rhywbeth y byddwch chi’n penderfynu arno yw eich rhywioldeb; rhywbeth sy’n ‘bodoli’ ydyw, fel maint eich esgidiau neu liw eich llygaid. Bydd rhai pobl yn cael eu denu gan amlaf at bobl o’r un rhyw â nhw. Maen nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd. Mae cyfunrywioldeb hefyd yn enw ar y teimladau yma.
- Mae’r rheiny sy’n cael eu denu at bobl o’r ddau ryw yn ddeurywiol.
- Cofiwch, nid oes yn rhaid ichi roi label rhywioldeb arnoch chi’ch hun. Rydych chi’n unigolyn.
- Nid oes unrhyw beth o’i le â bod yn hoyw, yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol. Maen nhw’n deimladau normal, yn union fel teimladau heterorywiol, er nad dyna yw barn pawb.
- Bydd rhai pobl yn teimlo dan fygythiad oddi wrth bobl y mae eu rhywioldeb yn wahanol i’w rhywioldeb nhw, a gall hyn annog pobl hoyw i beidio â bod yn onest ynglŷn â phwy ydyn nhw.
Dod allan
- Mae ‘dod allan’ yn cyfeirio at ddweud wrth bobl eraill am eich rhywioldeb.
- I rai pobl, gall hyn fod yn rhyddhad mawr. Ond efallai y bydd eraill yn cael profiad o elyniaeth o du pobl anwybodus, neu byddan nhw’n cael eu gwrthod hyd yn oed.
- Ni ddylech chi fyth deimlo eich bod chi dan bwysau i ddod allan – eich penderfyniad personol chi yw p’un a fyddwch chi’n dweud wrth unrhyw un ai peidio, a phwy fyddwch chi’n dweud wrthyn nhw.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus â’ch rhywioldeb eich hun cyn ichi ddweud wrth eraill.
- Dewiswch bobl y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw i ddweud wrthyn nhw yn gyntaf, fel ffrind da neu aelod o’r teulu, a fydd yn eich cefnogi.
- Bydd dweud wrth eich rhieni yn fwy anodd na dweud wrth eich ffrindiau. Efallai y byddan nhw’n cael ysgytwad, yn ofidus, yn drist, neu’n hapus ar eich rhan, neu efallai bod nhw eisoes wedi amau. Beth bynnag yw eu hymateb, maen nhw’n eich caru yn ddiamod a gallwch chi weithio gyda’ch gilydd i ddatrys unrhyw broblemau ymhen hir a hwyr.
- Peidiwch â theimlo dan bwysau i ddweud wrth bawb. Peth preifat yw rhywioldeb, ac nid oes angen i bawb wybod os nad ydych chi am iddyn nhw wybod. Er enghraifft, athrawon, cydweithwyr neu ddarpar gyflogwyr.
- Efallai y bydd y bobl rydych chi’n dweud wrthyn nhw yn gofyn rhai cwestiynau, felly fe allech chi feddwl am baratoi rhai atebion i’w gwneud yn haws i chi’ch hun. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gofyn pa mor hir rydych chi wedi gwybod neu p’un a ydych chi wedi cael profiad hoyw eto.





1 Comment – Postiwch sylw
Cardiff Women's Aid
Rhoddwyd sylw 25 mis yn ôl - 6th January 2010 - 04:35am
All of our services at Cardiff Women's Aid are available for women in same-sex relationships. We're one of the only organisations in Wales whose entire staff team have had specific training on domestic violence within LGBT relationships.
All of our services are private and confidential under the data protection act.
If you are aged 11-25 you are entitled to 1-to-1 information and advice sessions from our specialist youth worker, and these may be able to take place within a community building near you, ie. youth cntre, community centre, school etc.
Please contact us for an informal chat if you have any concerns that you may be experiencing, abuse, violence and/or control within your relationship.