Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Rhyw
- 16 oed yw’r oedran cydsynio ar gyfer cael rhyw heterorywiol neu gyfunrywiol yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu ei bod yn anghyfreithiol cymryd rhan mewn rhyw treiddiol, rhyw geneuol neu mastwrbeiddio eich gilydd dan 16 oed.
- Profiad personol a phreifat rhwng dau o bobl yw rhyw, ac ni ddylech chi ruthro i mewn iddo. Mae cael rhyw am y tro cyntaf yn benderfyniad pwysig ac yn rhywbeth na allwch chi ei dynnu yn ôl, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n barod yn gyntaf.
- Efallai eich bod chi’n meddwl bod pob un o’ch ffrindiau yn cael rhyw, ond mewn gwirionedd dim ond 25 y cant o ferched a 30 y cant o fechgyn dan 16 oed sydd wedi cael rhyw, felly mae’n beth normal iawn bod heb gael rhyw dan 16 oed. Nid cystadleuaeth yw rhyw; mae’n bersonol i chi.
- Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros nes eu bod nhw mewn perthynas sefydlog neu gyda rhywun maen nhw’n ymddiried ynddo neu ynddi cyn cael rhyw, gan fod hyn fel arfer yn gwneud y profiad yn fwy pleserus.
- Gall rhyw olygu gwahanol bethau i wahanol bobl felly gwnewch yn siŵr bod y sawl rydych chi’n penderfynu cael rhyw gydag ef neu hi yn teimlo’r un fath â chi.
- Mae cyfathrebu yn allweddol i fywyd rhywiol da ac iach.
Rhyw diogel
- Mae cael rhyw yn golygu bod yn gyfrifol amdanoch chi’n hun ac am les ac iechyd eich partner.
- Gall cael rhyw heb ddefnyddio condom arwain at ddod yn feichiog yn ddieisiau a heintiau a drosglwyddir trwy ryw, fel HIV. Gwelwch yr adran HEINTIAU A DROSGLWYDDIR TRWY RYW i gael mwy o wybodaeth.
- Defnyddiwch gondom BOB AMSER yn ystod rhyw i amddiffyn rhag dod yn feichiog a heintiau a drosglwyddir trwy ryw. Ymhlith y ffurfiau eraill ar ddulliau atal cenhedlu sy’n amddiffyn rhag dod yn feichiog yn unig mae’r bilsen atal cenhedlu a’r pigiad atal cenhedlu. Ewch i’r adran ATAL CENHEDLU i gael mwy o fanylion.
- Gallwch chi ddod yn feichiog y tro cyntaf oll y byddwch chi’n cael rhyw, felly dilynwch ychydig o ragofalon i gadw’n ddiogel a mwynhau eich hun.
- Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, ewch i’r adrannau BEICHIOGRWYDD a HEINTIAU A DROSGLWYDDIR TRWY RYW i gael help a chyngor.
- Ni ddylech chi adael i unrhyw un eich rhoi dan bwysau i gael rhyw. Mae gan bawb hawl i ddweud na unrhyw adeg cyn neu yn ystod rhyw neu weithgaredd rhywiol. Eich penderfyniad chi ydyw.




