Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Byw Dramor » Cyfathrebu
- Os ydych chi’n ystyried byw dramor, mae’n bwysig eich bod chi’n cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau rydych chi’n eu gadael ar ôl er mwyn iddyn nhw wybod eich bod chi’n ddiogel
- Mae yna lawer o ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau, gan gynnwys trwy’r post, trwy e-bost neu negeseuo neu dros y ffôn
Defnyddio ffôn dramor
- Gall fod yn ddrud ffonio o ffôn symudol dramor, a gallai fod yn syniad da dechrau cytundeb gyda chwmni ffôn newydd dramor
- Neu, efallai eich bod chi eisiau cadw’ch ffôn symudol presennol a chysylltu â’ch gweithredwr er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill
- Gall fod yn ddrud ffonio o ffôn symudol, a gall y costau amrywio gan ddibynnu ar eich gweithredwr ac ar ba wlad rydych chi ynddi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofyn ynglŷn â’r costau yn gyntaf
- Ni fydd signal ffôn symudol ar gael mewn rhai gwledydd. Mae’n syniad da gofyn ynglŷn â hyn cyn ichi adael
- Os nad ydych chi eisiau defnyddio ffôn symudol dramor, gallwch chi ddefnyddio ffôn talu a allai fod yn rhatach
- Os ydych chi’n defnyddio llinell tir gallwch chi brynu cerdyn galw sy’n ffordd ratach o wneud galwadau
E-bost
- Mae anfon negeseuon e-bost yn ffordd gyflym a hawdd o gadw mewn cysylltiad â phobl
- Cyn belled â bod gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd, mae defnyddio e-bost yn ffordd wych o gysylltu â’ch teulu a’ch ffrindiau. Gallwch chi hefyd anfon lluniau digidol wedi’u hatodi at eich negeseuon e-bost
- Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol WAP erbyn hyn, sy’n eich galluogi chi i ddefnyddio’ch ffôn i anfon negeseuon e-bost. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio’r costau cyn ichi anfon negeseuon
Negeseuo Sydyn
- Mae negeseuo sydyn yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd o ’ sgwrsio’ dros y rhyngrwyd, ac mae’n gyflymach nag e-bost
- Mae’n caniatáu ichi weld pwy rydych chi’n eu hadnabod sydd wedi mewngofnodi ar y rhyngrwyd, ac anfon negeseuon sydyn atyn nhw
- Bydd defnyddwyr system negeseuo sydyn yn creu ’rhestri bydis’ o’/ u ffrindiau y gallan nhw anfon negeseuon atyn nhw. Mae’r ’rhestr bydis’ yn dangos pwy sydd ar-lein
- I ddefnyddio’r cyfleuster yma, fel arfer fe fydd angen ichi lawrlwytho rhaglen i’ch cyfrifiadur
Galwadau llais dros y rhyngrwyd
- Mae siarad dros y rhyngrwyd yn debyg i ddefnyddio ffôn - gallwch chi wneud galwadau i bobl dros y byd i gyd, ond ar gyfradd lawer yn rhatach na galwad ffôn neu alwad ffôn symudol
- Fe fydd rhai cwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yma’n codi ffi fisol a bydd rhai’n codi ffi fesul munud
- I sefydlu’r cyfleuster yma ar eich cyfrifiadur fe fydd angen ichi lawrlwytho rhaglen a defnyddio clustffonau
- Am fwy o wybodaeth, gwelwch y rhan ar Gadw mewn Cysylltiad yn adran Gwyliau a Theithio




