Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Byw Dramor » Ymfudo

  • Mae ymfudo, neu mynd i fyw dramor yn barhaol, yn gam mawr y mae angen ei gynllunio’n ofalus
  • Mae pobl yn dewis ymfudo am bob math o resymau gan gynnwys rhesymau ariannol, iechyd a theulu, neu oherwydd eu bod nhw am symud i ffwrdd o amgylchiadau yn eu gwlad frodorol
  • Mae gan bob gwlad ei pholisïau ei hun ar ymfudo, felly cysylltwch â’r Swyddfa Dramor am wybodaeth sy’n benodol i’r wlad honno

Ymfudo dan orfod

  • Gall ymfudo dan orfod ddigwydd i rai pobl sydd naill ai’n ffoaduriaid neu sydd wedi cael eu gwthio allan o’u gwlad oherwydd trychinebau naturiol neu amgylcheddol, neu newyn
  • Pobl sydd wedi gadael eu gwlad oherwydd eu bod nhw’n ofni cael eu herlid ar sail eu hil, eu crefydd, eu cenedl a’u barn wleidyddol yw ffoaduriaid
    Mae rhai gwledydd yn derbyn ffoaduriaid ac maen nhw’n cael eu gwarchod dan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR)
  • Mae ffoaduriaid yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol ac mae ganddyn nhw hawl i warchodaeth dan UNHCR
  • Pobl sydd wedi symud dros ffin ryngwladol, ond nad ydyn nhw eto wedi ennill statws ffoadur yw ceiswyr lloches. Nid yw ceiswyr lloches yn cael eu gwarchod dan UNHCR

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50