Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gweithio » Blynyddoedd Bwlch

  • Mae blwyddyn fwlch yn gyfle i weld a gwneud pethau na fyddech chi byth fel arfer yn eu profi cyn ichi ymrwymo’ch hun i gyfrifoldebau eraill
  • Mae blynyddoedd bwlch mor boblogaidd bellach fel bod yna gyfleoedd di-ben-draw am bethau i’w gwneud. Gallwch chi deithio gyda grŵp neu ar eich pen eich hun, gwirfoddoli ym Mhrydain neu mewn gwlad arall, neu gallwch chi gael profiad gwaith neu hyfforddiant gwerthfawr
  • Yn gyffredinol, mae pobl yn cymryd blwyddyn fwlch ar ôl gadael yr ysgol a chyn dechrau mewn prifysgol neu swydd, ond gallwch chi gymryd blwyddyn fwlch unrhyw adeg yn eich bywyd. I gael mwy o wybodaeth, gwelwch dudalen Cyfnodau Sabothol y wefan yma
  • Os ydych chi’n cynllunio blwyddyn fwlch, ceisiwch gael cymaint o wybodaeth â phosib am eich opsiynau. Yn ogystal â’r we, efallai bod gan eich llyfrgell leol lyfrau am flynyddoedd bwlch a theithio
  • Mae’n syniad da siarad â phobl eraill sydd eisoes wedi bod i ffwrdd. Gallan nhw roi cyngor uniongyrchol ichi am beth i’w wneud a lle i fynd

Teithio

  • Mae yna lawer o gwmnïau sy’n trefnu teithiau blwyddyn fwlch o amgylch y byd. Yn aml iawn, rhennir y cynlluniau blwyddyn fwlch yma i wahanol adrannau, a gallwch chi gymryd rhan mewn prosiect gwirfoddol fel dysgu neu waith cymunedol, cyn mynd ar alldaith neu deithio’n annibynnol
  • Gall y cynlluniau yma fod yn weddol ddrud, ac mae’n debyg y bydd yn rhaid ichi wneud dipyn o waith codi arian cyn ichi fynd i ffwrdd. Fodd bynnag, mantais y prosiectau yma yw cael popeth wedi’i drefnu ar eich cyfer chi, yn ogystal â chael cyfle i gyfarfod â llawer o bobl newydd
  • Os ydych chi’n dymuno, gallwch chi fynd ar eich pen eich hun. Bydd yn rhaid ichi gynllunio’ch taith yn ofalus iawn os byddwch chi’. n teithio’n annibynnol. Bydd yn rhaid ichi gael y fisâu cywir ar gyfer teithio, gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian ar gyfer eich taith gyfan (ac arian ychwanegol rhag ofn y bydd yna argyfwng), penderfynu gyda phwy rydych chi am deithio ac i ble rydych chi am fynd
  • Gall teithio’n annibynnol fod yn ffordd wych o ddod i wybod mwy amdanoch chi’ch hun. Unwaith y byddwch chi wedi edrych ar ôl eich hun mewn gwlad dramor lle nad ydych chi’n deall yr iaith nac yn gwybod beth yw’r arferion, mae’n siŵr y byddwch chi’n teimlo’n barod am unrhyw beth. Mae hefyd yn ffordd wych o gyfarfod â phobl na fyddech chi fyth wedi dod ar eu traws nhw fel arall
  • Os byddwch chi’n teithio yn Ewrop, efallai y byddwch chi am brynu cerdyn Interrail, a fydd yn caniatáu ichi deithio heb gyfyngiad ar drenau mewn gwledydd penodol
  • Os byddwch chi’n mynd ymhellach, efallai byddai tocyn awyren o amgylch y byd yn opsiwn da. Byddwch chi’n dewis lle rydych chi am fynd cyn gadael, yna gallwch chi deithio mor gyflym neu mor araf ag y mynnwch chi, cyn belled â’ch bod chi’n glynu at y dyddiad rydych chi’n hedfan yn ôl i’r DU. I gael mwy o wybodaeth, gwelwch y cysylltau isod
  • I gael mwy o wybodaeth, gwelwch adran Gwyliau a Theithio ac adran Trafnidiaeth y wefan

Gwaith

  • Mae’n siŵr y byddwch chi am gael swydd gartref yn ystod rhan o’ch blwyddyn fwlch, i ariannu’ch astudiaethau dramor. Mae hyn yn syniad da, oherwydd y mwyaf rydych chi’n paratoi’n ariannol, lleiaf oll fydd gennych chi i boeni yn ei gylch ar eich taith
  • Yn ogystal â swydd dros dro, efallai y byddwch chi am ennill profiad gwaith yn yr yrfa rydych chi am ei dilyn. Mae rhai cwmnïau mawr yn cynnal lleoliadau blwyddyn fwlch ar gyfer rhai sy’n gadael yr ysgol, yn arbennig mewn diwydiannau fel bancio, peirianneg a TG
  • Gallwch chi hefyd weithio tra rydych chi dramor i ariannu’ch taith. Gallwch chi weithio yn y DU yn weddol rhwydd. Mae llawer o bobl yn gwneud swyddi dros dro fel casglu ffrwythau neu weini am arian ychwanegol
  • Mae’n anoddach cael fisâu gwaith mewn rhai gwledydd. Os byddech chi am weithio yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, byddai’n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod chi wedi trefnu rhywle i weithio i noddi’ch taith cyn ichi fynd. Fodd bynnag mae’n weddol hawdd cael fisa ar gyfer gwaith dros dro yn Awstralia. Cysylltwch â llysgenhadaeth y wlad rydych chi am weithio ynddi o flaen llaw i wirio’r rheolau
  • I gael mwy o wybodaeth, gwelwch adran Fisâu a Thrwyddedau Gweithio y wefan
  • Nid cael tâl yn unig mae gweithio’n ei olygu. Efallai eich bod chi am wneud gwaith gwirfoddol hefyd. Gallech chi wirfoddoli dramor, fel athro efallai, neu wneud rhywbeth yn nes at adref, fel gweithio mewn cartref gofal lleol. Mae gwirfoddoli’n ffordd foddhaus iawn o helpu eraill, a gall hefyd fod yn llawer o hwyl
  • I gael mwy o wybodaeth, gwelwch adran Gwirfoddoli y wefan

Astudio

  • Mae astudio yn ystod eich blwyddyn fwlch yn ffordd dda o ddarganfod beth rydych chi am ei astudio yn nes ymlaen, yn arbennig os ydych chi’n ansicr ynglŷn â beth i’w astudio yn y brifysgol
  • Efallai y byddwch chi am ddilyn cwrs sylfaen, er mwyn gweld pa faes pwnc fyddai o ddiddordeb ichi. Ymhlith y pynciau lle byddai dilyn cwrs sylfaen yn ddefnyddiol mae celfyddyd, neu feddyginiaeth os nad ydych chi wedi ennill cymwysterau Safon Uwch sy’n seiliedig ar wyddoniaeth
  • Gallech chi hefyd fachu’r cyfle i ddysgu sgil gwbl newydd. Gallech chi ddysgu iaith, dilyn y cwrs Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd, neu roi cynnig ar gwrs galwedigaethol fel gwaith plymwr. Dylai bod gan eich coleg addysg bellach lleol fanylion ar y cyrsiau sydd ar gael
  • Neu gallech chi ddilyn cwrs dramor. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes celfyddyd, er enghraifft, gallech chi fynd i’r Eidal i astudio’r union ddarluniau rydych chi â diddordeb ynddyn nhw, neu os ydych chi am edrych ar hen hanes, gallech chi ymweld â safleoedd Rhufeinig a safleoedd Groegaidd ym Môr y Canoldir

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50