Rydych chi yma: Hafan » Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gweithio » Cyfnodau Sabothol
Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gweithio » Cyfnodau Sabothol

- Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd cymryd egwyl o waith amser llawn i deithio neu i wirfoddoli dramor. Efallai eich bod chi am gymryd egwyl cyn ichi ymrwymo i swydd a thŷ, neu efallai eich bod chi am gael amser i feddwl am beth rydych chi eisiau’i wneud â’ch bywyd
- Os ydych chi’n ystyried cymryd egwyl o’ch gyrfa, mae’n bwysig eich bod chi’n edrych ar y rhesymau pam eich bod chi am wneud hynny. Os ydych chi’n anhapus yn y gwaith neu mewn perthynas, ceisiwch ddatrys unrhyw broblemau cyn ichi fynd - dim ond gwaeth fyddan nhw pan ddowch chi’n ôl
- Gellir trefnu cyfnod sabothol â’ch cyflogwr, fel y byddwch chi’n dychwelyd i weithio iddyn nhw ar ôl cyfnod penodedig o amser. Gofynnwch i’ch rheolwr beth yw polisi’r cwmni ar gyfnodau sabothol. Efallai y byddwch chi’n cael tâl trwy’r cyfnod neu efallai y bydd yn ddi-dâl. Bydd yn rhaid ichi drafod hyn â’ch pennaeth
- Gallech chi barhau i weithio os ydych chi’n penderfynu teithio. Er enghraifft, os ydych chi’n newyddiadurwr, gallech chi ysgrifennu am eich profiadau wrth deithio
- Cofiwch mai braint yw cyfnod sabothol, ac nid hawl. Er mwyn darbwyllo’ch cyflogwr o fanteision posib cyfnod sabothol, dylech chi dreulio amser yn cynllunio agenda a ddaw â budd yn ei sgïl
- Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cynlluniau cyfnod sabothol fel rhan o’u ch contract. Os byddwch chi’n gweithio am gyfnod penodol o amser, fel arfer ychydig o flynyddoedd, fe allech chi fod yn gymwys am gyfnod sabothol
- Cyn penderfynu cymryd cyfnod sabothol, mae’n debygol y bydd disgwyl ichi ddatblygu sgil a fydd yn gwella’ch gwaith pan fyddwch chi’n dychwelyd, fel dysgu iaith arall
- Gall eich cyflogwr hefyd osod cyfyngiadau penodol ar yr hyn byddwch chi’n ei wneud, er enghraifft, eich rhwystro chi rhag gweithio i gwmni cystadleuol
- Cyn ichi benderfynu cymryd cyfnod sabothol, gwnewch yn siŵr bod popeth wedi’i drefnu’n glir â’ch cyflogwr. Hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn tâl, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parhau i fod yn weithiwr i’ch cwmni. Bydd hyn yn sicrhau na fyddwch chi’n colli’ch hawliau fel gweithiwr, er enghraifft lwfansau pensiwn
- Mae cyfnod sabothol yn fonws cyffredin mewn llawer o swyddi academaidd. Bydd llawer o diwtoriaid prifysgolion yn defnyddio’r amser yma i ffwrdd o ddysgu i ysgrifennu llyfrau neu i wneud gwaith ymchwil
- Mewn prifysgolion, Swyddogion Sabothol yw’r enw ar fyfyrwyr sy’n cael eu hethol i fod yn gynrychiolwyr undeb y myfyrwyr. Fel arfer, bydd y brifysgol yn talu rhywfaint o gyflog iddyn nhw