Rydych chi yma: Hafan » Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gweithio » Gweithio Gwirfoddoli
Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gweithio » Gweithio Gwirfoddoli

- Mae gwneud gwaith gwirfoddol yn ffordd dda o weithio dramor. Mae llawer o bobl yn cael eu denu at wirfoddoli gan eu bod yn teimlo bod hyn yn ffordd o gyfrannu rhywbeth i’r byd
- Mae’r cyfleoedd sydd ar gael mor amrywiol ag rydych chi eisiau iddyn nhw fod. Gallwch chi weithio ar fferm yn Israel, mynd ar daith gloddio archeolegol yn Ffrainc, cymryd rhan mewn prosiect ecolegol yn Awstralia, gweithio gyda phlant ag anableddau yng Nghymru neu helpu â chymorth trychineb yn Ethiopia
- Yn aml, gall gwirfoddoli fod yn ffordd foddhaus iawn o weld y byd. Os byddwch chi’n gwirfoddoli mewn un lle am dipyn o amser, bydd yn rhoi cyfle ichi ddod i adnabod y gymuned neu’r ardal rydych chi’n ymweld â hi yn iawn, a theimlo’ch bod chi’n gwneud gwahaniaeth
- Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl yn eich ardal chi. Byddech chi’n synnu beth y gallwch chi ddod o hyd iddo ar stepen eich drws. Gallech chi helpu â’ch grŵp Brownies neu Sgowtiaid lleol, neu mewn ysbyty neu gartref hanesyddol lleol
- Nid oes yn rhaid gwirfoddoli trwy sefydliad bob tro. Beth am gynnig help i gymydog oedrannus yn yr ardd neu gartref?