Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Gweithio » Gweithio yn Ewrop
- Mae mwyfwy o bobl o Brydain yn dewis gweithio dramor
- Erbyn 2020, amcangyfrifir y bydd dwy filiwn yn fwy o bobl yn mynd dramor i weithio
- Mae llawer o bobl yn dewis gweithio y tu allan i Brydain er mwyn cael her newydd, cael newid neu gael profiad newydd, ac weithiau er mwyn cael ansawdd bywyd gwell
- Mae yna lawer o gyfleoedd y gallwch chi’u harchwilio os ydych chi am weithio neu wirfoddoli yn Ewrop
Pethau i’w hystyried cyn ichi adael
- Cysylltwch â’ch canolfan gwaith leol i gael mwy o wybodaeth am weithio yn Ewrop cyn ichi adael. Byddan nhw’n eich helpu chi i ddod o hyd i waith dramor ac yn egluro beth yw’ch hawliau
- Cyn ichi adael, cynlluniwch lle byddwch chi’n byw a faint fydd cost eich taith
- Efallai y byddwch chi am deithio i’r wlad yr hoffech chi weithio ynddi i chwilio am waith. Byddwch chi hefyd yn gallu gweld yn union sut le ydy’r wlad, a phenderfynu lle hoffech chi fyw
- Pan fyddwch chi’n gwneud ceisiadau am swyddi dramor, lluniwch CV a rhestrwch eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch profiad gwaith. Efallai y byddwch chi am chwilio am swydd eich hun er mwyn dod o hyd i rywle i weithio
- Byddwch yn ymwybodol bod gan wahanol wledydd wahanol ffyrdd o ysgrifennu CVs a llythyrau
- Ceisiwch ddarganfod a fydd angen ichi siarad iaith arall yn ystod eich amser yn Ewrop. Efallai y byddwch chi’n darganfod nad yw hyn yn hanfodol, ond dylech chi ystyried dysgu’r iaith frodorol er mwyn cyfoethogi’ch profiad
- Y mwyaf rydych chi’n ceisio’i ddeall am y wlad rydych chi’n ymweld â hi, gorau oll fydd eich profiad. Gwnewch eich ymchwil a dewch i wybod am y wlad cyn ichi fynd
- Os ydych chi am gael swydd newydd neu leoliad gwaith dramor, gwelwch y cysylltau isod i gael mwy o wybodaeth
Rheoliadau
- Mae gan rai gwledydd yn Ewrop nad ydyn nhw’n rhan o’r UE gyfreithiau rhwystrol o ran cyflogi pobl nad ydyn nhw o’r wlad honno. Gall eich canolfan gwaith leol eich helpu chi â mwy o wybodaeth
- Bydd rhai gwledydd yn gofyn ichi gael Fisa neu drwydded gweithio cyn y gallwch chi weithio dramor. Gwelwch yr adran ar FISâU A THRWYDDEDAU GWEITHIO i gael mwy o wybodaeth
- Mae’n syniad da cysylltu â’r Llysgenhadaeth sy’n seiliedig yn y DU ar gyfer y wlad benodol honno. Byddan nhw’n gallu rhoi gwybodaeth ichi am fisâu, trwyddedau gweithio, budd-daliadau a chymwysterau angenrheidiol
- Os ydych chi am weithio mewn gwlad sy’n aelod o’r UE, dylech chi gael eich trin yn gyfartal â dinasyddion y wlad honno. Bydd eich canolfan gyrfa leol yn gallu rhoi cyngor ichi
Gwaith Gwirfoddol
- Mae gwirfoddoli dramor yn ffordd wych o gynyddu’ch hyder a’ch profiad
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis asiantaeth ag enw da i’ch helpu i ddod o hyd i leoliad. Y peth gorau i’w wneud yw siarad â phobl eraill sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg neu ymchwiliwch ar-lein




