Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Cymru

  • Cynulliad wedi’i ddatganoli yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu bod San Steffan wedi dyfarnu ei rymoedd iddo. O’r herwydd, cafodd rhai grymoedd penodol eu trosglwyddo o’r llywodraeth ganolog i lywodraeth ranbarthol yng Nghymru
  • Ffurfiwyd y Cynulliad dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 gan y llywodraeth Lafur, ar ôl refferendwm ym 1997 lle cafodd pobl Cymru gyfle i bleidleisio
  • Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rym i wneud deddfwriaeth ddomestig yng Nghymru, fel cyfreithiau sy’n ymwneud ag addysg a thrafnidiaeth
  • Agorwyd adeilad y cynulliad, sef Y Senedd, fis Mawrth 2006
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yw prif gorff y Cynulliad Cenedlaethol, yn debyg i gabinet llywodraeth Prydain
  • Mae LlCC yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, ac un gweinidog ar gyfer pob maes, fel y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • O fis Mai 2007, bydd gan LlCC rymoedd i wneud cyfreithiau Cymru yn annibynnol ar y Senedd

Etholiadau Cynulliad Cymru

  • Yng Nghymru, yn ogystal â phleidleisio dros Aelod Seneddol (AS), mae yna etholiad ar wahân lle mae pobl yn pleidleisio dros Aelod Cynulliad (AC)
  • Mae gan pob papur pleidleisio ddwy bleidlais:
    • Mae un i bleidleisio dros AC i gynrychioli eich etholaeth, sef yr ardal wleidyddol sydd hefyd yn cael ei chynrychioli gan eich AS, er enghraifft Sir Drefaldwyn, neu Flaenau Gwent
    • Mae’r bleidlais arall er mwyn penderfynu ar gynrychiolydd rhanbarthol. Mae Cymru wedi’i rhannu’n bum ardal yn seiliedig ar ardaloedd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gan bob ardal bedwar AC

Gwleidyddiaeth Cymru Leol

  • Mae gan bob sir a dinas yng Nghymru gyngor lleol. Mae gan Gymru 22 o awdurdodau unedol
  • Yn yr un modd ag y ceir etholiad i benderfynu pwy fydd yn AS neu’n AC, mae etholiadau lleol yn penderfynu pwy fydd yn gynghorwyr
  • Mae cynghorau lleol yn penderfynu ar bethau fel addysg leol, casglu sbwriel, rhai gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth leol, peth gwariant ar addysg a gwasanaethau pobl ifanc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50