Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Ewrop

  • Mae Ewrop yn gyfandir ffyniannus ac mae gwleidyddiaeth ei gwledydd yn amrywio’n eang
  • Mae’r rhan fwyaf o wledydd oddi mewn i Ewrop yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd (yr UE)

Undeb Ewropeaidd

  • Undeb ryng-lywodraethol o 25 o aelod-wladwriaethau yw’r Undeb Ewropeaidd
  • Nod yr undeb yw creu cynghrair economaidd a gwleidyddol rhwng yr aelod-wladwriaethau, yn arbennig ynghylch masnach
  • Dyma aelodau’r Undeb Ewropeaidd:
    • Y Deyrnas Unedig
    • Gweriniaeth Iwerddon
    • Gwlad Belg
    • Lwcsembwrg
    • Yr Iseldiroedd
    • Yr Almaen
    • Yr Eidal
    • Ffrainc
    • Sbaen
    • Portiwgal
    • Awstria
    • Hwngari
    • Y Weriniaeth Tsiec
    • Gwlad Groeg
    • Malta
    • Creta
    • Lithwania
    • Estonia
    • Latfia
    • Sweden
    • Y Ffindir
    • Denmarc
    • Gwlad Pwyl
    • Slofenia
    • Slofacia
  • Mae’r gwledydd hynny nad ydyn nhw yn yr UE yn cynnwys:
    • Norwy
    • Y Swistir
    • Serbia
    • Albania
    • Macedonia
    • Wcráin
    • Belarws
    • Rwmania
    • Bwlgaria
    • Liechtenstein
    • Andorra
    • Dinas y Fatican
    • San Marino
    • Bosnia a Herzgovina
    • Montenegro
    • Gwlad yr Iâ
  • Gall y rhai nad ydyn nhw’n aelodau o’r UE ddewis i beidio â bod yn aelodau neu efallai nad ydyn nhw wedi cael eu derbyn oherwydd nad ydyn nhw’n bodloni safonau economaidd yr UE neu oherwydd eu ffordd o drin hawliau dynol yn y gorffennol
  • Mae gan y rhan fwyaf o wledydd yr UE arian cyffredin, sef yr Ewro, er nad yw Prydain wedi ymuno ag ef
  • Mater mawr sy’n wynebu Prydain yw p’un a ddylai ymuno â’r Ewro ai peidio. Mae’r farn gyhoeddus wedi’i rhannu’n ddwy hanner yn fras, rhwng y rhai hynny sydd eisiau cadw’r bunt a’r rhai sydd eisiau ymuno â’r Ewro. Fodd bynnag, mewn refferendwm, dim ond tua 20% o Brydain sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros ymuno â’r Ewro

Cymru a’r Undeb Ewropeaidd

  • Mae’r UE yn cyfrannu llawer at dwf economaidd Cymru. Mae wrthi’n gweithio i gynorthwyo Cymru ym meysydd cymorth datblygu rhanbarthol, lleihau diweithdra, trafnidiaeth, ariannu ymchwil, materion amgylcheddol a chefnogi busnesau bach, ymysg pethau eraill
  • Mae Cymru’n manteisio ar filiynau o bunnoedd gan yr UE er mwyn cynorthwyo â datblygiad economaidd, ac mae’n ariannu nifer o brosiectau a sefydliadau yn y wlad, er enghraifft Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe sy’n derbyn £3.7 miliwn
  • Mae arian yr UE hefyd yn golygu bod pobl Cymru yn rhydd i symud ar draws y 25 o aelod-wladwriaethau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50