Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Ieuenctid

  • Proses a ffordd o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar grŵp o bobl, neu hyd yn oed gwlad neu genedl yw gwleidyddiaeth ieuenctid
  • Gall gwleidyddiaeth ieuenctid ymwneud â chynghorau ysgol, grwpiau ieuenctid, fforymau ieuenctid neu’ch cyfraniad personol chi i wleidyddiaeth fel rhywun ifanc
  • Gall eich pryderon gwleidyddol chi fod mor lleol â cheisio cael offer newydd yn eich ysgol, neu mor gyffredinol â hawliau anifeiliaid neu bobl

Sut i gymryd rhan

  • Gall unrhyw un fynychu gwrthdystiadau a phrotestiadau sy’n cael eu trefnu gan bleidiau gwleidyddol neu grwpiau ymgyrchu sy’n ymladd dros newid mewn polisi
  • Gallwch chi ymuno â changen ieuenctid plaid wleidyddol neu grŵp ymgyrchu - mae gan bron pob plaid gangen ieuenctid os ydych chi dan 18 mlwydd oed. Os ydych chi’n 18 neu’n hŷn, gallwch chi ymuno â’r prif blaid wleidyddol
  • Ceisiwch ysgrifennu at eich AS lleol, aelod o’r cabinet neu’r Prif Weinidog i fynegi’ch barn neu i brotestio
  • Gallwch chi hefyd ddechrau grŵp gwleidyddol yn eich ysgol neu ymwneud â chyngor eich ysgol
  • Gwelwch y cysylltau isod am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ieuenctid

Gwleidyddiaeth ieuenctid yng Nghymru

  • Gallwch chi gymryd rhan mewn dadleuon, sy’n rhan bwysig o wleidyddiaeth ac sy’n cynnwys pynciau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â materion cyfoes
  • Cystadleuaeth ddadlau yw CEWC Cymru, lle mae dau ddisgybl o ysgol gyfun yn gwneud tïm ac yn dadlau yn erbyn ysgolion eraill am bynciau neu gynigion. Gofynnwch i’ch ysgol, yn arbennig yr adran Saesneg neu’r adran Wleidyddiaeth, am wybodaeth
  • Cystadleuaeth yw Ffug Gynulliad Cymru, lle mae timau o ddisgyblion o amryw o ysgolion cyfun yn gweithredu fel pwyllgor o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn dadlau yn erbyn ysgolion eraill. Gofynnwch i’c h ysgol chi am wybodaeth
  • Cystadleuaeth yw Model y CU lle mae pobl ifanc yn cael rôl real, megis Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, neu wlad i’w chynrychioli, ac mae nhw’n gallu cymryd rhan mewn model o drafodaeth y Cenhedloedd Unedig. Gwelwch adran y Cenhedloedd Unedig o wefan CLIC am fwy o wybodaeth

Y Ddraig Ffynci

  • ’Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru’ yw’r Ddraig Ffynci
  • Ei nod yw rhoi’r cyfle i rai Dan 25 mlwydd oed fynegi eu barn am bynciau sy’n effeithio arnyn nhw, yn enwedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
  • Mae gan y Ddraig Ffynci dri aelod ieuenctid o bob un o 22 o ardaloedd yng Nghymru
  • Gallwch chi gymryd rhan trwy’ch cyngor ieuenctid neu’ch cyngor ysgol lleol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50