Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Ymwelwyr

  • Mae ’mewnfudo’ yn cyfeirio at symudiad pobl o un genedl-wladwriaeth i’r llall
  • Mae llawer o wahanol grwpiau o fewnfudwyr
  • Mae mewnfudwr yn berson sy’n gadael y wlad sy’n gartref iddynt er mwyn setlo dros dro neu’n barhaol mewn gwlad arall
  • Cafodd 7.5% o bobl sy’n byw ym Mhrydain eu geni dramor, a chafodd 2.66% o bobl Cymru eu geni dramor
  • Mae cyfraith a safonau mewnfudo’r DU yn berthnasol yng Nghymru hefyd, ond mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn yng Nghymru
  • Mae mewnfudo yn broses sy’n gallu newid bywyd unigolyn, sydd fel arfer yn golygu gadael teulu a ffrindiau yn ôl. Mae mewnfudwyr yn wynebu her a rhaid iddynt addasu i gyfreithiau newydd, diwylliant newydd, iaith newydd a chwilio am swydd a chartref
  • Mewn rhai achosion, fe all mewnfudwyr wynebu hiliaeth, gelyniaeth a gwrthdaro yn eu gwlad newydd
  • Erbyn hyn, mae mewnfudo yn fater gwleidyddol, a hwn yw prif fater gwleidyddiaeth mewn rhai gwledydd
  • Mae statws mewnfudwyr yn hynod o bwysig oherwydd ei bod yn debygol y gofynnir i chi am eich statws wrth geisio derbyn triniaeth mewn ysbyty, agor cyfrif banc, hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol, cael tŷ gan yr awdurdod lleol, addysg, trwydded briodi neu swydd

Mathau o ymwelwyr i Gymru a mewnfudwyr

Ceiswyr lloches

  • O dan gyfraith y DU, ceisiwr lloches yw rhywun sy’n disgwyl i’w cais i fyw yn y wlad gael ei asesu
  • Mae ceiswyr lloches yn bobl sy’n ffoi o’r wlad sy’n gartref iddynt oherwydd bod gwrthdaro mawr wedi digwydd neu oherwydd bod hawliau dynol mewn perygl
  • Maen nhw’n ffoi neu’n ceisio lloches mewn gwlad arall trwy gyflwyno cais am loches. Mae’r Immigration and Nationality Directorate (IND) yn y Swyddfa Gartref yn gyfrifol am wneud y penderfyniad cychwynnol yn y cais am loches.
  • Mae ceisiwr lloches sydd wedi methu yn rhywun y mae eu cais wedi’i wrthod ac sy’n disgwyl dychwelyd i’w gwlad

Pobl Ifanc sy’n Geiswyr Lloches

  • Gall pobl ifanc fod gyda theuluoedd sy’n geiswyr lloches
  • Pobl sydd wedi’u gwahanu o’u teuluoedd neu blant sydd ar eu pen eu hunain
  • Plant neu bobl ifanc sy’n cael eu cludo’n anghyfreithlon (trafficking)

Ffoaduriaid

  • Mae ffoadur yn rhywun sydd wedi llwyddo yn eu cais ac sydd wedi ennill ’statws ffoadur’. Mae ffoadur yn gallu aros yn y wlad ar ôl profi y gallent wynebu erledigaeth (persecution) petaen nhw’n mynd adref (hil; crefydd; cenedl; barn wleidyddol; rhywioldeb; tueddfryd)
  • Mae mewnfudwr anghyfreithlon yn rhywun sydd wedi cyrraedd mewn gwlad arall ac sydd heb hysbysu eu hunain i’r awdurdodau. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt sail gyfreithiol i aros yn y wlad
  • Mae mewnfudwr economaidd yn rhywun sydd wedi symud i wlad arall i weithio. Mae pobl o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn fwy tebygol o fod yn fewnfudwyr economaidd

Ymwelwyr

  • Fe all ymwelwyr i Gymru fod yn dwristiaid, neu’n bobl sydd â fisâu i gymryd rhan mewn addysg neu waith

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50