Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Ymwelwyr » Y Gyfraith a Hawliau

  • Mae holl ddinasyddion ac aelodau rhai gwledydd y Gymanwlad â hawl i gael eu heithrio o bolisi mewnfudo ac mae ganddynt hawliau llawn i fyw a gweithio ym Mhrydain
  • Gall pobl sydd o fewn yr UE, yn ogystal â Liechtenstein, Gwlad yr Iâ a Norwy ddod i’r DU unrhyw bryd i fyw a gweithio a chael yr un hawliau cyfreithiol â dinasyddion Prydeinig

Ceiswyr lloches

  • O dan gyfraith ryngwladol, mae hawl gan bawb wneud cais am loches yn y DU ac i aros yn y DU nes bod yr awdurdodau wedi asesu eu cais am loches
  • Nid oes y fath beth â ’cheisiwr lloches anghyfreithlon’, ac mae’r Refugee Convention 1951 yn sicrhau’r hawl i wneud cais am loches
  • Mae proses a system fanwl ynglŷn â sut y prosesir ceisiadau ceiswyr lloches
  • Rhaid i bobl sy’n ceisio lloches yn y DU wneud cais unwaith maen nhw’n dod i’r wlad
  • Unwaith y gwneir cais am loches, mae’n mynd i mewn i’r system loches, ac yn cael ei wirio yn unol â deddfwriaeth y DU. Mae’r broses honno wedi’i seilio ar gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n gysylltiedig â ffoaduriaid
  • Mae’r broses loches yn cael ei gweinyddu gan ran o’r Swyddfa Gartref o enw’r Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd
  • Mae ceiswyr lloches sy’n gwneud ceisiadau porthladd yn cael dod i’r wlad dros dro tra bod eu ceisiadau yn cael eu hadolygu
  • Mae’n anghyfreithlon cyrraedd yn y DU heb y ddogfennaeth adnabod ddilys oni bai bod esboniad da gennych

Cyfreithiau mewnfudo

  • Mae cyfreithiau mewnfudo’r DU yn ymwneud â’r meysydd canlynol:-
    • Fframwaith mewnfudo’r DU a chyfraith genedlaethol
    • Ceisiadau am fewnfudo sy’n cynnwys lloches a cheisiadau mewnfudo sy’n gysylltiedig â busnes
    • Rheoliadau lles, cyfraith deuluol, cyfraith droseddol a chymorth cyfreithiol
    • Materion trethi a chorfforaethol
    • Eiriolaeth
  • Mae fframwaith cyfraith mewnfudo’r DU yn cael ei ddarparu o hyd gan Ddeddf Fewnfudo 1971
  • Mae’r Ddeddf hon wedi’i dilyn gan sawl Deddf arall hyd at Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006

Hawliau Cyfreithiol Ceiswyr Lloches

  • Mae gan geiswyr lloches yr un hawliau cyfreithiol â dinasyddion y DU. Er hynny, rhoddir cymorth cyfreithiol ar sail unigol, yn ôl yr achos hwn, ac ni ellir gwarantu’r hawl hon
  • Os yw ceisiwr lloches yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol am ddim, gall gynnwys:-
    • Cyngor ar y gweithdrefnau o wneud cais am loches
    • Help wrth ddrafftio’r cais am loches
    • Ad-dalu costau teithio i’r cyfweliadau am gais ac oddi yno
    • Cael cynghorydd cyfreithiol neu gynrychiolydd i fynd gyda chi i’r cyfweliad am loches
    • Cael cyfieithydd gyda chi yn y cyfweliad

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50