Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Ymwelwyr » Ymwelwyr Gwaith

  • Mae mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad mawr at y DU trwy’r gwaith maen nhw’n ei wneud. Er enghraifft, mae mwy na 1,000 o ffoaduriaid sydd wedi cael hyfforddiant meddygol wedi’u cofnodi ar gronfa ddata Cymdeithas Feddygol Prydain, ac mae gan lawer o ffoaduriaid gymwysterau academaidd neu gymwysterau addysgu

Trwyddedau gwaith

  • Er mwyn gweithio yn y DU mae angen trwydded waith arnoch, ac mae’n anodd i fewnfudwr gael un o’r rhain
  • Fel arfer mae’n haws i fewnfudwr uchel ei sgiliau gael gwaith na mewnfudwr sydd â llai o sgiliau
  • Mae mwy o wybodaeth ar ’gynlluniau gwaith â phwrpas’ ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref

Ceiswyr Lloches

  • Ni all ceiswyr lloches weithio tra bod eu cais yn cael ei brosesu
  • Mae ceiswyr lloches yn dibynnu ar gefnogaeth y wladwriaeth, sef 30% yn llai na lefel cymhorthdal incwm arferol
  • Mae sawl rhaglen mewn rhai rhannau o’r DU sy’n cynnig cyfleoedd i geiswyr lloches gymryd rhan mewn gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau cymunedol neu ddysgu Saesneg a sgiliau TG
  • Ni all meddygon cymwysedig weithio tra bod eu cais am loches yn cael ei brosesu

Gweithwyr sy’n mewnfudo

  • Ym mis Mawrth 2006, cyhoeddwyd dull mewnfudo newydd. Mae hyn yn golygu defnyddio system pwyntiau
  • Mae hyn yn golygu y dyfernir pwyntiau penodol i bob mewnfudwr posibl yn seiliedig ar eu hoedran, eu sefyllfa ariannol, eu haddysg, eu cymwysterau a’u gallu yn Saesneg
  • Yr enw ar hyn yw’r ’Highly-Skilled Migrant Programme’ (HSMP)
  • Mae llawer o bobl a gwleidyddion wedi gwrthwynebu’r system newydd hon gan ddweud ei bod yn rhy lym, ac mae’n golygu bod mwy a mwy o fewnfudwyr yn cael eu hanfon yn ôl oherwydd eu bod yn llai medrus, yn ôl y system hon
  • Mae’r Cyngor Ffoaduriaid a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi sefydlu cronfa ddata o geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n feddygon cymwysedig
  • Cyfeiriwch at y Cyngor Ffoaduriaid am ragor o wybodaeth
  • Gwelwch ’Fisâu a Thrwyddedau Gwaith’ yn yr adran ’Gweithio’ yn CLIC am fwy o wybodaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50