Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Ymwelwyr » Ymwelwyr Tai
Ffoaduriaid
- Mae gan ffoaduriaid yr un hawl i dai â dinasyddion y DU
- Os ydych yn derbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith, mae hawl gennych gael budd-dal tai i helpu i dalu tuag at gostau byw. Gallwch wneud cais am fudd-dal tai hefyd os ydych ar incwm isel. Mae ffurflenni cais ar gael mewn swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith
Ceiswyr lloches
- Ni all ceiswyr lloches ddewis lle maen nhw eisiau byw os oes angen i’r wladwriaeth ddarparu llety
- Nid yw’r cyngor yn talu am y llety a ddarperir iddyn nhw - myth yw hyn
- Os yw’r ymgeisydd yn gallu aros yn y DU, yn ystod cyfnod y cais, mae’r opsiynau llety yn cynnwys:-
- Aros gyda ffrindiau neu berthnasoedd
- Cael llety gan y National Asylum Support Service
- Cael eu dal mewn canolfan breswyl




