Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Cosbau a Dedfrydau

Cosbau a Dedfrydau
Mae canlyniadau troseddu yn ddifrifol iawn ac fe allan nhw effeithio ar weddill eich bywyd. Os byddwch chi’n gwybod ac yn deall beth fydd y cosbau a sut y bydd bod â chofnod troseddol yn effeithio ar eich gyrfa a’ch gobeithion am swydd, fe ddylai hyn eich helpu i ddewis peidio â chwarae rhan mewn unrhyw fath o drosedd.

Yn achos rhai troseddau, mae yna gosb neu ddedfryd penodedig (e.e. bydd llofruddiaeth bob amser yn arwain at ddedfryd oes). Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, gall yr ynad neu’r barnwr ddewis pa gosb maen nhw’n meddwl sy’n addas. Efallai y byddwch chi’n derbyn ‘rhyddhad diamod’ sy’n golygu bod y llys o’r farn nad ydych chi’n euog ac rydych chi’n rhydd i fynd adref. Neu, os bydd y llys o’r farn eich bod yn euog o’r drosedd rydych chi wedi’ch cyhuddo ohoni, efallai y byddwch chi’n derbyn ‘dedfryd o gaethiwed’. Byddwch chi’n cael eich anfon i naill ai carchar oedolion neu sefydliad troseddwyr ifanc.

Ymhlith y dedfrydau mae:


  • Rhyddhad diamod: Er eich bod yn euog, mae’r drosedd mor fân fel na fyddwch chi’n cael dirwy na chosb o unrhyw fath. Fel pe baech chi ddim yn euog.
  • Rhyddhad amodol: Mae’r llys yn penderfynu, er eich bod chi’n euog, y dylid rhoi cyfle ichi ac felly nid ydych chi'n cael eich cosbi yn y fan a'r lle. Fodd bynnag, os byddwch chi’n troseddu eto cyn pen cyfnod penodol o amser, efallai y cewch chi’ch cosbi am y drosedd gyntaf pan fyddwch chi’n cael dedfryd am yr ail.
  • Ymrwymiad (Binding over): Bydd gofyn ichi lofnodi addewid ysgrifenedig y byddwch chi’n ymddwyn yn dda am gyfnod penodol. Os na fyddwch chi’n ymddwyn yn dda, fe fyddwch chi’n cael uchafswm dirwy o £250 os ydych chi dan 14 oed, a £1000 os ydych chi dan 18 oed. Os ydych chi dan 16 oed mae’n bosibl mai eich rhieni yn hytrach na chi fydd yn gorfod ymrwymo i wneud yn siwr eich bod chi’n ymddwyn yn dda. Mewn rhai ardaloedd, nid yw’n arfer ymrwymo diffynyddion ifanc.
  • Dirwy: Bydd gofyn ichi dalu swm penodedig gan ystyried pa mor ddifrifol oedd y drosedd. Uchafswm o £250 yw’r swm os ydych chi dan 14 oed a £1000 os ydych chi dan 18 oed. Os ydych chi dan 16 oed, fel arfer eich rhieni yn hytrach na chi fydd yn gorfod talu’r ddirwy.
  • Gorchymyn iawndal: Os ydych chi wedi achosi difrod neu anafiad i rywun neu eu heiddo, gall y llys eich gorchymyn i dalu iawndal i’r dioddefwr, hyd at £5,000. Gallai hyn fod ar ben dedfryd arall. Dylai’r llys ystyried p’un a allwch chi dalu’r swm ai peidio. Os ydych chi dan 16 oed, fe fydd y llys fel arfer yn gorchymyn eich rhieni i dalu’r swm. Os ydych chi dan 17 oed mae'n bosib y bydd yn gorchymyn eich rhieni i dalu, er y gallai’r llys hefyd orchymyn eich bod yn ei dalu eich hun.
  • Gorchymyn Cymunedol: Gorchmynion gan y llys yw dedfrydau o’r math yma ichi fynychu canolfan, gwneud gwaith cymunedol neu ddechrau cyfnod o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth gyda swyddog prawf neu weithiwr cymdeithasol. Bydd manylion y gorchymyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich trosedd a ph’un a oes canolfan neu raglen addas ar gael ai peidio. Os na fyddwch chi’n ufuddhau i’r gorchymyn fe allwch chi gael eich dwyn gerbron y llys eto a chael dedfryd o fath arall.

Mae gan Orchymyn Cymunedol amrediad o 12 Gofyniad posibl. Mae llysoedd yn gallu dewis Gofynion gwahanol i ffurfio Gorchymyn Cymunedol arbennig. Rhaid i bob Gorchymyn gynnwys o leiaf un o'r 12 Gofyniad. Gall y gorchymyn redeg am hyd at dair blynedd. Does dim lleiafswm amser, ond mae lleiafswm oriau ar gyfer rhai o'r Gofynion.

  • Dedfryd o gaethiwed: Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael eich cadw rhywle diogel fel sefydliad troseddwyr ifanc neu garchar. Gwelwch yr adran ar Carchar.
  • Gorchymyn cadw a hyfforddiant. Rhoddir y rhain i bobl ifanc dan 18 oed sydd wedi troseddu a’r drosedd honno yn un a fyddai wedi haeddu carchar pe bydden nhw’n oedolion. Bydd hanner cyntaf gorchymyn cadw’n cael ei dreulio yn y ddalfa a’r ail dan oruchwyliaeth yn y gymuned. Os ydych chi rhwng 14 a 17 oed ac yn torri’r gorchymyn cadw, gall y Llys Ieuenctid roi dirwy ichi o £1000. Os byddwch chi’n aildroseddu yn ystod gorchymyn cadw fe fydd y llys yn dedfrydu cyfnod o gaethiwed.
  • Gorchymyn cadw allan: Bydd hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â gemau pêl-droed. Os byddwch chi’n dreisiol neu os byddwch chi’n cael eich dal yn yfed alcohol mewn gêm lle mae wedi’i wahardd, gall y llys eich atal rhag mynd i fwy o gemau. Byddan nhw’n rhoi gorchymyn cadw allan fel dedfryd ar ben un arall. Gallai’r ddedfryd fod am drosedd trefn gyhoeddus fel ymddygiad treisgar, aflonyddu hiliol neu ymddygiad meddw ac afreolus.
  • Dedfryd ohiriedig: Gellir gohirio dedfryd os oes yna newidiadau mawr er gwell yn eich bywyd ac mae’r llys o’r farn y dylai roi cyfle ichi ddangos bod y newidiadau yma'n mynd i bara.
  • Gorchymyn hyfforddiant diogel: Dedfryd o gyfnod mewn canolfan hyfforddiant diogel, ac yna cyfnod o oruchwyliaeth.
  • Dalfa ddiogel: Sefyllfa yw hon lle byddwch chi’n mynd i fyw yn llety’r awdurdod lleol ond fe fydd yna amod yn ymwneud â diogelwch (e.e. cyfyngiadau ar yr amseroedd y gallwch chi fynd allan). Mae hyn yn cael ei gyflwyno fel opsiwn i’r llys pan fydd yn rhoi dedfryd i bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed.
  • Gorchmynion cyrffyw: Gorchymyn cyrffyw yw’r sefyllfa lle bydd gofyn ichi aros mewn lle penodol yn ystod amser penodol (e.e. aros yn eich cartref ar ôl 10 o’r gloch y nos). Gall cyrffyw fod am gyfnod rhwng 2 a 12 awr y dydd, a gallan nhw bara am hyd at chwe mis.
  • Monitro electronig: Mae ‘tagio electronig’ neu ‘tagio’ yn enwau eraill ar fonitro electronig. Tagio yw’r sefyllfa lle bydd dyfais electronig yn cael ei gosod arnoch chi i fonitro eich lleoliad. Mae’n bur debyg y bydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â chyrffyw, i wneud yn siwr eich bod chi’n ufuddhau i’r cyrffyw. Mae rhai pobl yn ystyried bod tagio yn torri hawliau sifil.
  • Ymrwymiad (Binding over) rhieni: Sefyllfa yw hon pan fydd y llys yn gorchymyn eich rhiant/ rhieni/ gwarcheidwad/gwarcheidwaid i’ch rheoli a gwneud yn siwr eich bod chi’n cyflawni’ch dedfryd gymunedol yn iawn. Os na fyddan nhw’n gwneud hyn fe fydd yn rhaid iddyn nhw fforffedu hyd at £1000.

Bydd eich dedfryd yn dibynnu ar lawer o bethau fel p’un a oes gennych chi gofnod droseddol flaenorol ai peidio, pa mor ddifrifol yw’r drosedd, a ydych chi’n edifar am eich trosedd a pha lefel o ddedfryd mae’r llys o’r farn fydd fwyaf effeithiol.

Os ydych chi’n 17 oed neu’n iau, ac mae dedfryd gymunedol neu ddedfryd o gaethiwed yn debygol, fe fydd y llys fel arfer yn gwneud cais am PSR (Adroddiad cyn dedfrydu), sef adroddiad y bydd gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf yn ei lunio yn dweud pam eich bod wedi troseddau ac yn nodi beth y gellid ei wneud i’ch atal rhag aildroseddu neu i leihau’r tebygolrwydd y byddwch chi’n aildroseddu.

Bydd y llys yn defnyddio’r adroddiad yma i’w helpu i benderfynu pa ddedfryd i'w gorfodi.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50