Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mynegai Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Cosbau a Dedfrydau » ASBOs

Ystyrir eich ymddygiad yn wrth-gymdeithasol os yw’n achosi, neu’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn a phryder i bobl eraill.

Beth yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol (ASBO)?

  • Nid yw’n gosb droseddol: Mae’n orchymyn llys sifil y mae cyngor lleol yn ceisio amdani sydd yn gwahardd ymddygiad er mwyn diogelu’r cyhoedd. Ond mae gan awdurdodau rym i gyhoeddi enwau’r bobl â gorchmynion yn eu herbyn a rhoi eu henwau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
  • Pryd y cyflwynwyd ASBOs? Cyflwynwyd ASBOs yn sgïl Deddf Trosedd a Anrhrefn 1998 ac maent wedi cael eu defnyddio fel cosb ers Ebrill 1999.
  • Ehangwyd a chryfhawyd y grymoedd i ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol ym 2002, pan ddaeth yn gyfreithlon gwneud gorchmynion tebyg ar euogfarnau mewn achosion troseddol, ac mewn llys sirol, ac i wneud gorchmynion dros dro.

All unrhyw un gael ASBOs?

  • Gall ASBOs gael eu cyflwyno yn erbyn unrhyw un dros 10 oed.

Am ba resymau y gall rhywun gael ASBO?

  • Am yr ymddygiad gwaethaf yn unig megis achosi aflonyddwch, niwed troseddol, camdriniaeth hiliol, dwyn ceir a fandaliaeth.

A allaf apelio yn erbyn ASBO?

  • Gallwch apelio yn yr un ffordd ag apelio yn erbyn euogfarnau.
  • Mae apêl yn mynd gerbron Llys y Goron sydd yn ail-glywed yr achos ac mae angen rhoi rhybudd apêl ysgrifenedig i swyddog apwyntiedig y llys o fewn 21 diwrnod o wneud yr orchymyn.

Ydyn nhw’n farc parhaol ar fy mywyd?

  • Gan fod ASBO yn orchymyn sifil yn hytrach na chosb droseddol, ni fyddai’n dangos ar gofnod troseddol unigolyn.
  • Fodd bynnag, mae torri darpariaeth ASBO yn drosedd a all arwain at hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Beth yw’r diffiniad o ‘wrth-gymdeithasol’ ?

  • Y diffiniad cyfreithiol yw ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu bryder.
  • Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys yfed yn gyhoeddus, niwed troseddol, fandaliaeth, llosgi bwriadol, taflu sbwriel, niwsans cadw sŵn a graffiti.

Oes graddau gwahanol o ASBOs?

  • Does dim graddau gwahanol o ASBOs.
  • Mae gorchymyn yn cynnwys amodau sy’n gwahardd y troseddwr rhag gwneud pethau penodol gwrth-gymdeithasol neu rhag mynd i ardaloedd sydd wedi eu diffinio, ac mae mewn grym am o leiaf dwy flwyddyn.
  • Nid yw’r gorchmynion yn sancsiynau troseddol ac nid cosbi’r troseddwr yw eu pwrpas.

Oes rhybuddion cyn cael ASBOs?

  • Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedau Cymru (CSPs) yn taclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol gyda phroses ymyrraeth pedwar cam sydd wedi ei thargedu, â’r nod o ddelio ag ymddygiad niwsans cyn iddo gynyddu i fod yn ASBO.
  • Mae hyn yn cynnwys llythyrau rhybuddio, ymweliadau cartref a Chytundebau Ymddygiad Derbyniol.

Pwy sy’n cyflwyno ASBO - heddlu / llys?

  • Gorchmynion sifil yw ASBOs a gyflwynir gan lysoedd yr Ynadon ar gais yr Heddlu, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Heddlu Trafnidiaeth Prydain neu Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.