Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd
Gall bod yn brofiad trallodus iawn ac erchyll o bosib os byddwch chi’n dioddef gan unrhyw fath o drosedd. Mae yna unrhyw nifer o wahanol fathau o droseddau y gallech chi fod wedi dioddef ganddyn nhw, yn eu plith ymddygiad treisgar yn y cartref, gwahaniaethu, dwyn, stelcio (stalking) a thrais rhywiol. Beth bynnag yw’r drosedd yn eich erbyn, gall yr effeithiau bara am hir a gallan nhw fod yn emosiynol; gall y teimladau gynnwys sioc, llid, ofn, euogrwydd a diffyg hyder.
Y newyddion da yw bod yna lawer o help proffesiynol ar gael ar amryw o ffurfiau. Felly mae’n wirioneddol bwysig ceisio help os ydych chi’n dioddef gan unrhyw fath o drosedd, a bydd yr help a’r gefnogaeth hefyd yn hynod werthfawr os bydd yn rhaid ichi fynd i'r llys fel tyst.
Mae hefyd yn bwysig eich bod chi’n gofalu am eich diogelwch eich hun fel eich bod yn cwtogi ar y cyfleoedd a allai arwain atoch chi’n dioddef gan drosedd.
Fe fydd y tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth ichi am help ar gyfer mathau penodol o drosedd, ac am fod yn dyst yn y llys.




