Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd » Stelcio
Stelcio
Diffiniad o stelcio yw rhywun yn aflonyddu yn gyson ac yn ddyfalbarhaus ar rywun arall. Mae’n drosedd frawychus a difrifol. Gall gynnwys nifer o weithgareddau fel cael eich dilyn, derbyn galwadau ffôn ac ymweliadau dieisiau byth a hefyd a chael eich gwylio. Mae’n bosib hefyd cael eich stelcio trwy e-bost neu mewn ystafell sgwrsio, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o bolisïau diogelwch a phreifatrwydd pan fyddwch chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ac ati.
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn eich stelcio, cysylltwch â’r heddlu lleol. Gofynnwch am enw’r swyddog sy’n gofalu am eich achos fel y byddwch chi'n gwybod pwy i gysylltu ag ef neu hi yn y dyfodol. Gofynnwch i ffrind a fydd yn fodlon bod yn gyswllt arall ar gyfer yr heddlu. Bydd hyn yn ddefnyddiol mewn sefyllfa lle byddwch chi dan straen, fel bod modd i’r ffrind siarad â’r heddlu os nad ydych chi’n teimlo y gallwch chi wneud hynny.
Os bydd y broblem yn parhau, yna mae’n bosib y gallwch gael gwaharddeb sifil yn erbyn y sawl sy’n aflonyddu arnoch chi; fe ddylai’r heddlu allu helpu â manylion sut i sicrhau hyn.
Mae yna lawer o help a chyngor manwl ac ymarferol ar y gwefannau canlynol:




