Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd » Trais yn y Cartref

Trais yn y Cartref

Mae dioddef gan ymddygiad treisgar yn y cartref yn brofiad brawychus ac unig iawn, gan y bydd yn aml yn cael ei guddio oddi wrth ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu, ac fel arfer fe fydd yn achosi teimladau o gywilydd ac euogrwydd. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod erbyn hyn ei fod yn rhywbeth mwy cyffredin na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl. Perthynas dreisgar yw ymddygiad treisgar yn y cartref, a gall gynnwys cam-drin llafar, tactegau pwyso, diffyg parch, bygythiadau a thrais corfforol a rhywiol. Mae’n cynnwys dynion a merched yn bod yn dreisgar tuag at ei gilydd, ac ymddygiad treisgar rhiant tuag at blant.

Os byddwch chi’n dioddef yn uniongyrchol gan ymddygiad treisgar yn y cartref, neu os yw’n digwydd yn eich cartref chi, y ffordd orau o ddelio â’r drosedd drallodus yma yw mynnu help a chefnogaeth. Mae yn a nifer o grwpiau ac asiantaethau cefnogi y gallwch chi gysylltu â nhw a fydd yn cynnig cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd i’ch helpu i ymdopi ac i gysylltu â’r heddlu pan fyddwch chi’n gallu wynebu’r heriau y bydd hynny’n eu golygu. Os ydych chi’n wirioneddol pryderu ynghylch perygl enbyd o ymddygiad treisgar yn y cartref, yna ffoniwch yr heddlu ar 999. Mae’n rhaid mynd i’r afael ag ymddygiad treisgar yn y cartref cyn gynted â phosib, er mwyn ceisio sicrhau na fydd y profiadau’n achosi niwed parhaol i’r oedolion a’r plant.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.