Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr Trosedd » Tystion
Tystion
Efallai eich bod wedi gweld rhywun yn troseddu neu fod gennych chi wybodaeth am drosedd. Er mwyn helpu’r heddlu i lwyddo i erlyn rhai troseddwyr, mae angen i bobl gynnig eu help a rhoi tystiolaeth.
Efallai y bydd gofyn ichi wneud datganiad o’r hyn sydd wedi digwydd, ac efallai y bydd gofyn ichi fynd i’r llys. Os ydych chi dan 16 oed, mae’n rhaid i’ch rhiant neu eich gwarcheidwad fod yn y llys gyda chi. Os ydych chi dan 14 oed ni fydd gofyn ichi roi tystiolaeth ar eich llw. Mae bod ar eich llw yn golygu bod yn rhaid ichi dyngu y byddwch chi’n dweud y gwir neu ddim ond yn dweud yr hyn rydych chi’n credu sy’n wir.
Gall fod yn anodd neu’n drallodus hyd yn oed bod yn dyst yn y llys os mai chi sydd wedi dioddef gan y drosedd sy’n cael ei herlyn. Fodd bynnag, fe fydd yna bobl i’ch cynorthwyo a’ch cefnogi.
I gael manylion defnyddiol a llawn gwybodaeth am fod yn dyst ewch i




