Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gwahaniaethu » Cyfle Cyfartal

Cyfle Cyfartal

Yn ystod blynyddoedd diweddar mae nifer o ddeddfau seneddol wedi’u pasio i geisio sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal. Yn eu plith mae:


Deddf Cysylltiadau Hiliol
Deddf Tâl Cyfartal
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw
Deddf Cydraddoldeb Cyflogaeth

Mae’n rhaid cyflwyno cwyn dan un o’r deddfau yma cyn pen tri mis o’r drosedd yn digwydd.

Nid oes unrhyw ddeddfau ar hyn o bryd sy’n ymwneud yn benodol â gwahaniaethu ar sail tueddfryd rhywiol. Mae deddfau Ewropeaidd yn ymwneud â hyn. Gall Deddf Cysylltiadau Hiliol fod yn berthnasol i rai achosion o wahaniaethu ar sail crefydd, ond nid oes unrhyw ddeddf sy’n benodol i’r maes yma.

Mae gan lawer o sefydliadau bolisïau cyfle cyfartal sy’n dangos eu hymrwymiad i atal gwahaniaethu ac i ddarparu cyfle cyfartal i bob aelod o’r gymuned gael gwaith.

Mae’n bwysig ystyried eich hawliau o ran cyfle cyfartal pan fyddwch chi’n ystyried gyrfa neu swydd; erbyn hyn mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi a oedd yn cael eu hystyried yn draddodiadol yn swyddi a oedd yn addas i ddynion neu i ferched. Gall merched fod yn fecanyddion ceir a gall dynion fod yn fydwragedd. Gallwch chi gael manylion y cyfleoedd ar gyfer pob math o yrfaoedd o’ch swyddfa gyrfa leol ac ar www.gyrfacymru.com.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.