Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gwahaniaethu » Hiliaeth
Hiliaeth
Mae hiliaeth, sef math penodol o wahaniaethu, yn erbyn y gyfraith. Gall ymosodiadau hiliol fod ar lafar neu gallan nhw fod yn gorfforol. Mae hi hefyd yn erbyn y gyfraith i argraffu erthyglau hiliol mewn cylchgronau neu bapurau newydd. O gofio hyn, mae’n bwysig iawn rhoi ystyriaeth i’r hyn y byddwch chi’n ei wneud, ac unrhyw areithiau cyhoeddus y byddwch chi’n eu traddodi ac erthyglau y byddwch chi’n eu hysgrifennu i’w cyhoeddi. Weithiau bydd pethau’n cael eu dweud neu eu gwneud heb ystyried yr effaith ar bobl eraill, a gall Deddf Cysylltiadau Hiliol fod yn berthnasol iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod yn ymwybodol o’r gyfraith os ydych chi’n ymwneud â rhai meysydd o fywyd cyhoeddus.
Gall fod yn hynod drallodus a brawychus os byddwch chi’n dioddef gan rhagfarn a hiliaeth. Pan fydd rhywun yn ymosod arnoch chi ar lafar neu’n gorfforol a hynny ar sail hil, ystyrir hyn yn ymosodiad dan y gyfraith droseddol. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n dioddef gan hiliaeth mae’n hanfodol eich bod chi’n mynnu help a chefnogaeth yn ddi-oed. Mae yna nifer o sefydliadau sy’n cynnig yr help yma, yn amrywio o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol i’r heddlu sydd â Llinell Boeth Digwyddiadau Hiliol ac Uned Cefnogi Lleiafrifoedd o bosib.





1 Comment – Postiwch sylw
tstar
Rhoddwyd sylw 11 mis yn ôl - 28th June 2011 - 09:50am
im totally against bullying i have friends who are mixed race and white and i get on with other religions i really hope we can putn a stop to it!