Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gweithdrefnau'r Llys
Gweithdrefnau’r Llys
Mae yna nifer o resymau pam y gallech chi fynychu Llys y Gyfraith:
Fel y sawl sy’n cael ei gyhuddo am drosedd, pan fyddwch chi’n sefyll treial
Fel tyst mewn achos llys
Fel rheithiwr
Fel aelod o’r cyhoedd, pan fyddwch chi yn oriel y cyhoedd yn dilyn y treial
Mae’r modd o weithredu llysoedd yn ffurfiol iawn a gall yr amgylchedd fod yn ddychrynllyd. Mae yna wahanol fathau o lysoedd:
Llysoedd Ynadon – bydd achosion cyfraith droseddol, cyfraith deuluol, a chyfraith trwyddedu yn mynd gerbron y llysoedd yma, yn ogystal â mathau eraill o achosion llai cyffredin
Llysoedd Ieuenctid – mae’r rhain yn rhan o'r llysoedd ynadon. Mae yna fwy o fanylion am lysoedd Ieuenctid ar y tudalennau canlynol
Llysoedd y Goron – Os bydd achos troseddol yn ddifrifol, ar ôl iddo fynd gerbron llys Ynadon i gychwyn, fe fydd yn cael ei anfon gerbron llys y Goron
Llysoedd Sirol – bydd achosion cyfraith sifil yn mynd gerbron y rhain.
I gael mwy o fanylion am fynd i’r llys ewch i wefan www.youthinformation.com ac yna ewch i Justice and Equality ac yna Crime a Going to Court




