Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau

Mae hawliau dynol yn warantau cyffredinol sy’n gwarchod unigolion a grwpiau rhag gweithredoedd sy’n effeithio ar eu rhyddid a’u hurddas dynol. Mae gan bawb hawliau a warchodir yn ôl y ddeddf ac ni ellir eu cymryd oddi arnynt.

Fel plant a phobl ifanc mae hawliau ychwanegol hefyd i’ch gwarchod ac i sicrhau eich bod yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.

Datblygwyd yr hawliau ychwanegol hyn gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddir manylion amdanynt yn yr hyn a elwir yn UNCRC - Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Confensiwn yn cynnwys 54 o “erthyglau” neu brif feysydd y mae’r llywodraeth yn gyfrifol amdanynt sy’n sicrhau eich bod yn mwynhau hawliau i addysg, gwybodaeth, eich bod yn cael eich cynnwys mewn llunio penderfyniadau, gofal iechyd a safon byw dda, gweithgareddau hamdden, defnyddio iaith ac arferion eich teulu, triniaeth deg yn y system cyfiawnder troseddol a’ch bod yn gwybod beth yw eich holl hawliau.

Yn 2004 mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yr UNCRC fel sail i’w holl bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc, gan ategu eich hawliau ym mhob agwedd o’i waith. Mae CLIC yn brosiect pwysig sy’n helpu i gyflenwi Erthyglau 13 ac 17 UNCRC sy’n ymwneud â’ch hawl i wybodaeth a defnyddio’r cyfryngau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50