Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau » Hawliau Dynol
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu bod gennym ni hawliau sydd wedi’u cydnabod yng ngolwg y gyfraith. Fodd bynnag, drwy gytuno i’r hawliau hyn cymerir y byddwch chithau hefyd yn cynnal hawliau pobl eraill h.y. cydnabod eich cyfrifoldebau a pheidio â thorri’r gyfraith.
Dyma restr o'ch hawliau dynol:
- Y hawl i fywyd
- Rhyddid rhag artaith a thriniaeth ddiraddiol
- Rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
- Yr hawl i ryddid
- Yr hawl i dreial teg
- Yr hawl i beidio â chael eich cosbi am rywbeth nad oedd yn drosedd pan wnaethoch chi ei wneud
- Yr hawl i barch i’ch bywyd preifat a theuluol
- Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd
- Rhyddid mynegiant h.y. i fod â barn ac i roi a derbyn gwybodaeth
- Rhyddid ymgynnull e.e. i ymuno ag undeb a gwrthdystio mewn grwp
- Yr hawl i briodi a chychwyn teulu – ond nid gyda rhywun o’r un rhyw ar hyn o bryd
- Yr hawl i beidio â chael rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn o ran yr hawliau a’r rhyddidau hyn
- Yr hawl i fod yn berchen ar eich eiddo eich hun
- Yr hawl i addysg
- Yr hawl i etholiadau rhydd
Os bydd unrhyw un neu rai o’r hawliau a’r rhyddidau hyn yn cael eu camddefnyddio, mae gennych chi hawl i ddatrysiad effeithiol dan y gyfraith, hyd yn oed os mai rhywun mewn awdurdod fydd yn eu camddefnyddio e.e. heddwas.




