Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau » Hawliau Plant

Mae gan y Confensiwn y Cenedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) 54 o erethyglau i gyd. Mae erthyglau 43-54 ynghylch sut y dylai oedolion a llywodraethau gydweithio i ofalu bod pob plentyn yn derbyn ei holl hawliau.

Cytundeb rhwng gwledydd i ufuddhau i'r un gyfraith yw confensiwn. Pan fo llywodraeth gwlad yn cadarnhau confensiwn, mae hyn yn golygu ei bod yn cytuno i ufuddhau i'r ddeddf a ysgrifennwyd i lawr yn y confensiwn hwnnw.

  • Mae gan bob un sydd yn 18 oed yr hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.
  • Mae’r Confensiwn yn gymwys i bob un, beth bynnag fo’i hil, crefydd neu alluoedd, beth bynnag a feddylia neu a ddywed a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.
  • Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.
  • Dylai llywodraethau ofalu bod yr hawliau hyn ar gael i blant.
  • Dylai llywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant fel eu bod, wrth dyfu, yn dysgu sut i ddefnyddio’u hawliau’n briodol.
  • Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu fod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.
  • Mae gan bob plentyn hawl i enw a gofrestrwyd yn gyfreithiol, hawl i genedligrwydd a hawl i wybod am a, chyhyd ag y bo modd, i dderbyn gofal gan ei rhieni.
  • Dylai llywodraethau barchu hawl plant i enw, cenedligrwydd a chlymau teulu.
  • Ni ddylid gwahanu plant oddi wrth eu rhieni onid yw hyn er eu lles nhw’u hunain, er enghraifft os yw rhiant yn cam-drin neu’n esgeuluso plentyn. Mae gan blant y mae eu rhieni wedi gwahanu hawl i gadw mewn cyswllt â’r ddau riant, oni fyddai hyn yn niweidio’r plentyn.
  • Dylai teuluoedd sy’n byw mewn gwledydd gwahanol gael yr hawl i symud rhwng y gwledydd hynny fel y gall y rhieni a’r plant gadw mewn cysylltiad neu ddod at ei gilydd fel teulu.
  • Dylai llywodraethau gymryd camau i gadw plant rhag cael eu cymryd allan o’u gwledydd nhw’u hunain yn anghyfreithlon.
  • Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.
  • Mae gan blant yr hawl i gael a rhannu gwybodaeth onid yw’r wybodaeth yn niweidiol iddyn nhw ac i eraill.
  • Mae gan blant yr hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynnant ac i arfer eu crefydd, cyhyd ag nad ydynt yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Dylai rhieni arwain eu plant yn y materion hyn.
  • Mae gan blant yr hawl i gydgyfarfod ac ymuno gyda grwpiau a sefydliadau, onid yw hyn yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.
  • Mae gan blant yr hawl i breifatrwydd. Dylai’r gyfraith eu cadw rhag ymosodiadau ar eu ffordd o fyw, eu henw da, eu teuluoedd a’u cartrefi.
  • Mae gan blant yr hawl i wybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol. Dylai teledu, radio a phapurau newydd roi gwybodaeth y gall plant ei deall ac ni ddylent hybu deunyddiau a allai niweidio plant.
  • Dylai’r ddau riant rannu cyfrifoldeb dros fagu eu plant, a dylent ystyried yr hyn sydd orau i bob plentyn bob amser. Dylai llywodraethau helpu rhieni trwy ddarparu gwasanaethau i’w cefnogi, yn enwedig os yw’r ddau riant yn gweithio.
  • Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn cael y gofal priodol, a’u cadw rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n edrych ar eu hôl.
  • Rhaid i bobl sy’n parchu eu crefydd, eu diwylliant a’u hiaith edrych ar ôl plant na all eu rhieni ofalu amdanyn nhw.
  • Pan fo plant yn cael eu mabwysiadu yr ystyriaeth gyntaf yw’r hyn sydd orau iddyn nhw. Dylai’r un rheolau gael eu cymhwyso os yw’r plant yn cael eu mabwysiadu yn y wlad lle ganed nhw neu’n cael eu cymryd i fyw mewn gwlad arall.
  • Dylai plant sy’n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno.
  • Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol.
  • Mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddwr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân iddyn nhw gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
  • Dylai sefyllfa plant y mae eu hawdurdod lleol yn hytrach na’u rhieni yn gofalu amdanynt gael ei hadolygu’n rheolaidd.
  • Dylai’r Llywodraeth roi mwy o arian ar gyfer plant teuluoedd mewn angen.
  • Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ymateb i’w hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai’r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio i ddarparu hyn.
  • Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu hunan-barch dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
  • Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a’u diwylliant nhw ac eraill.
  • Mae gan blant yr hawl i ddefnyddio iaith ac arferion eu teuluoedd, boed y rhain yn cael eu rhannu gan fwyafrif y bobl neu beidio.
  • Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.
  • Dylai’r Llywodraeth gadw plant rhag gwaith sy’n beryglus neu a allai amharu ar eu hiechyd neu eu haddysg.
  • Dylai’r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o gadw plant rhag cyffuriau niweidiol.
  • Dylai’r Llywodraeth gadw plant rhag camdriniaeth rywiol.
  • Dylai’r Llywodraeth ofalu na chaiff plant eu cipio neu eu gwerthu.
  • Dylai plant gael eu gwarchod rhag gweithgarwch a allai amharu ar eu datblygiad.
  • Ni ddylid trin plant sy’n torri’r gyfraith yn greulon. Ni ddylid eu rhoi mewn carchar gydag oedolion a dylid eu cadw mewn cysylltiad â’u rhieni.
  • Ni ddylai llywodraethau adael i blant dan 15 oed ymuno â’r fyddin. Dylai plant mewn parthau rhyfel gael gwarchodaeth arbennig.
  • Dylai plant sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin gael help arbennig i adfer eu hunan-barch.
  • Dylai plant a gyhuddir o dorri’r gyfraith dderbyn help cyfreithiol. Dylid defnyddio dedfrydau o garchar i blant ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol yn unig.
  • Os yw cyfreithiau gwlad arbennig yn gwarchod plant yn well nag erthyglau’r Confensiwn, yna dylai’r cyfreithiau hynny aros.
  • Dylai’r Llywodraeth wneud y Confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn.

Pwyllgor UNICEF DU a gyfrannodd cynnwys gwreiddiol y daflen hon. Cyhoeddwyd y daflen drwy nawdd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Achub y Plant.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.