Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau Defnyddwyr » Siopa Ar-lein

Mae siopa ar-lein yn gyfleus iawn. Gall peidio â gorfod gadael y ty, siopa unrhyw adeg o’r dydd a bod ag amrywiaeth eang o nwyddau i ddewis ohonyn nhw wneud y math yma o siopa’n hwyl. Fodd bynnag, mae yna nifer o beryglon ynghlwm wrth siopa ar-lein a all achosi ichi golli’ch arian neu galluogi rhywun i ddefnyddio’ch cerdyn credyd yn dwyllodrus oni bai eich bod chi’n ofalus ac yn dilyn ychydig o ragofalon.

  • Teipiwch gyfeiriad y wefan yn ofalus; mae achosion wedi codi lle mae copïau o wefannau wedi’u sefydlu sy’n edrych yn union yr un fath â’r wefan go iawn, felly os byddwch chi’n rhoi manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd fe allech chi golli arian
  • Peidiwch â phrynu o wefannau nad ydyn nhw’n nodi rhif ffôn a chyfeiriad post llawn. Gwiriwch nhw cyn prynu i fod yn gwbl sicr
  • Gwnewch yn siwr eich bod chi’n ymwybodol o’r holl gostau, fel post a phecynnu a TAW
  • Defnyddiwch wefannau rydych chi’n gwybod mae’ch ffrindiau neu’ch teulu wedi’u defnyddio, fel eich bod yn gwybod eich bod yn gallu ymddiried ynddyn nhw
  • Gwiriwch fod yna glo clap melyn i’w weld bob amser yn y gornel dde ar y gwaelod, cliciwch ddwywaith ar hwn ac fe ddylai fod gwybodaeth i’w gweld am y dystysgrif diogelwch. Os nad oes clo clap neu os na fydd unrhyw fanylion yn dod i’r golwg pan fyddwch chi’n clicio arno, peidiwch â defnyddio’r wefan yma gan nad yw’n ddiogel
  • Mae’n bosib y bydd nwyddau o dramor yn cymryd mwy o amser i gyrraedd, felly ceisiwch osod dyddiad i’w derbyn; mae’n rhaid i hwn fod cyn pen 30 diwrnod
  • Hefyd, os byddwch chi’n prynu o dramor, mae’ch contract gyda rhywun o dramor ac fe allai fod yn anodd cael eich arian yn ôl os oes yna broblem
  • Gwiriwch y polisi dychwelyd
  • Argraffwch yr archeb a’r amodau a thelerau sy’n ymddangos ar y wefan, rhag ofn y bydd yna broblemau
  • Fe ddylech chi dderbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb cyn pen 24 awr.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.