Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau Defnyddwyr » Siopa
Mae’n ddefnyddiol gwybod beth yw’ch hawliau fel defnyddiwr cyn y byddwch chi'n talu’ch arian, a gwybod beth i’w wneud os bydd nam ar nwyddau:
- Cadwch eich derbynebau bob amser pan fyddwch chi’n prynu nwyddau, gan bod y rhain yn brawf eich bod wedi prynu’r eitem mewn siop benodol neu oddi wrth fasnachwr penodol. Gofynnwch am dderbynneb os na fydd un yn cael ei chynnig
- Os byddwch chi’n prynu rhywbeth o bapur newydd neu gylchgrawn, cadwch yr hysbyseb a chofiwch ei bod yn bosib y bydd cwmnïau’n mynd i'r wal cyn ichi dderbyn eich nwyddau
- Os byddwch chi’n prynu eitem ac yna’n sylweddoli bod yna nam arni, peidiwch â pharhau i ddefnyddio’r eitem a naill ai anfonwch hi’n ôl neu ewch â hi’n ôl i’r lle y gwnaethoch chi ei phrynu ohono. Fe ddylech chi fod â hawl i gael eich holl arian yn ôl
- Os bydd y masnachwr yn trwsio’r eitem ac mae nam arni eto, mae gennych chi hawl i gael eich arian yn ôl
- Os byddwch chi’n prynu eitem mewn sêl sy’n dweud bod nam arni, yna ni fyddwch chi'n gallu cael eich arian yn ôl os byddwch chi’n rhoi gwybod am y nam yn ddiweddarach
- Bydd gwarant yn eich diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o chwith gydag eitem newydd ac fel arfer bydd yn manylu ar sut i hawlio. Efallai y byddwch chi’n cael cynnig gwarant estynedig ond fe fydd yn rhaid ichi dalu am hyn, felly ystyriwch a yw’n werth yr arian.




