Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd » Atal Troseddu
bod trosedd yn rhan o bob cymdeithas, mae yna ffyrdd y gallwch chi helpu i amddiffyn eich hun, eich ffrindiau, eich teulu a'ch eiddo, ac i atal trosedd gartref ac yn eich cymdogaeth. Os ydych chi’n barod ac yn hyderus fe allai hyn eich helpu i ddelio â digwyddiadau pe byddech chi’n ddigon anffodus i ddioddef trosedd.
Mae yna gysylltiad rhwng atal trosedd a diogelwch personol, ac fe ddylech chi ystyried y canlynol pan fyddwch chi’n cerdded ar eich pen eich hun:
Cario larwm personol – gofynnwch i’ch ysgol, eich coleg neu’r heddlu cymunedol a oes ganddyn nhw gynllun i gyflenwi larymau personol
Cynllunio’ch llwybr ac aros mewn ardaloedd sydd wedi’u goleuo'n dda
Osgoi mynd i ffwrdd o’r brif lwybr i gwtogi ar eich taith, ac osgoi tanffyrdd
Dweud wrth rywun lle rydych chi’n mynd
Meddwl am y dillad rydych chi’n eu gwisgo; a fyddan nhw’n dwyn sylw atoch chi, a allech chi redeg i ffwrdd yn gyflym yn yr esgidiau rydych chi’n eu gwisgo?
Mae llawer o ganolfannau hamdden yn rhedeg cyrsiau hunanamddiffyn a allai eich helpu i deimlo’n fwy hyderus pan fyddwch chi allan ar eich pen eich hun.
Camau syml y gallech chi eu cymryd i atal trosedd yn eich cymuned ac yn eich cartref:
Gwybod sut i gysylltu â’r heddlu lleol, a bod â’u rhif yn eich ffôn symudol
Cloi drysau a ffenestri yn y ty.
Mynd â phethau gwerthfawr i fyny staer pan fyddwch chi’n mynd i’r gwely
Peidio â gadael eiddo fel beics y tu allan os nad oes rhywun yn cadw llygad arnyn nhw
Cloi’r sied/ garej, yn enwedig pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio i storio pethau gwerthfawr fel beics
Cloi eich car a chau’r ffenestri, a rhoi eiddo yn y bwt
Parcio mewn strydoedd sydd wedi’u goleuo’n dda.




