Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd » Lladrad a Dwyn o Siop
Ystyr dwyn yw cymryd rhywbeth rydych chi’n gwybod dydych chi ddim yn berchen arno. Mae’n cynnwys popeth o siopladrata a lladrata ceir i godi eitemau dydy pobl ddim yn cadw llygad arnyn nhw, fel bagiau a ffonau symudol, a’u cadw. Mae hi hefyd yn drosedd cadw neu werthu rhywbeth sydd wedi’i ddwyn, sef trin a thrafod nwyddau wedi’u dwyn.
Pan fyddwch chi’n defnyddio grym i ddwyn, lladrata yw hyn ac mae’n drosedd fwy difrifol na dwyn, ac fel arfer daw’r achos gerbron Llys y Goron.
Yn achos dwyn a lladrata, mae cadw llygad allan neu bod yn rhan o grwp sy’n troseddu ynddo’i hun yn ddigon ichi gael eich erlyn, hyd yn oed os nad chi wnaeth y dwyn eich hun.




