16 – 24? Di-waith?
Os ydych rhwng 16 a 24 oed ac yn chwilio am waith, daliwch ati i ddarllen
Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am 30 prentis modern: swyddi â thâl i bobl ifanc a wnaiff eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth weithio i’r Llywodraeth. Mae’n gyfuniad o waith a hyfforddiant: cewch eich talu am eich amser, ond fe gewch hefyd lawer o bethau i’w hychwanegu at eich CV.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Byddwch yn gweithio i Lywodraeth Cymru, felly bydd eich gwaith yn bwysig, yn ddiddorol ac yn ennyn eich diddordeb. Byddwch yn rhan o dîm, a byddwch yn gweithio i gynorthwyo eich tîm a’r sefydliad cyfan. Byddwch yn ymgyfarwyddo â gweithio mewn sefydliad mawr sy’n gyfrifol am weithredu a chyflawni polisïau a rhaglenni ledled Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru trwy fynd i’w gwefan.
Am faint fydda i’n gweithio?
Gall y gwaith amrywio o ychydig fisoedd i gyfnod amhenodol: 2 fis yw isafswm y brentisiaeth. Fe wnaiff hynny roi cyfle i chi gael blas o’r gwaith. Ar ddiwedd y cyfnod, os byddwch wedi mwynhau’r gwaith ac os bydd eich rheolwr yn credu eich bod yn addas ar gyfer y swydd, cynigir cytundeb 15 mis i chi. Wedi blwyddyn, efallai y cewch gyfle i wneud cais am swydd barhaol Cymorth Tîm.
Achredu
Yn ystod eich prentisiaeth, cewch gyfle i ennill NQF Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes. Yn ychwanegol, buasai gweithio i Lywodraeth Cymru yn hwb sylweddol i’ch CV, a dylai’r sgiliau y buasech yn eu meithrin yn ystod eich lleoliad fod yn hwb sylweddol i’ch sgiliau yn y gweithle.
Meini Prawf Dethol
Mae’n rhaid i chi feddu ar, neu’n disgwyl cael (os ydych yn sefyll eich arholiadau yr haf hwn), TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg (Iaith) a Mathemateg, neu gymhwyster cyfwerth. Nid yw’r cyfle hwn yn agored i raddedigion.
Lleoliad
Mae cyfleoedd ar gael yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.
Cyflog
Buasech yn cael cyflog hyfforddi o £12,000 y flwyddyn ar brentisiaeth.
Sut allaf wneud cais?
Gallwch wneud cais yma rhwng 28 Mai a 25 Mehefin.
Bydd y cyfweliadau’n cychwyn yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 23 Gorffennaf a bydd y prentisiaethau’n cychwyn ddiwedd mis Medi 2012.
DELWEDD: Cle0patra







