3ydd Penwythnos Mawr CLIC
English version
… aka, Clefyd Traed a’r Genau
Dros benwythnos Gŵyl y Banc, roeddwn yn Doc Penfro (yn Sir Benfro ffans ffeithiau).
Pam? Am ei fod yn ddyddiau da gyda’r bobl o CLIC a gwefannau eraill fel theSprout, Swoosh a Fflintyr Ifanc.
Wel, roedd pobl eraill yno hefyd, o siroedd sydd heb wefan eto, ond gan nad oes ganddynt wefan eto ni allaf enwi nhw yn fan hyn. O wel. [Paid anghofio’r gwefan Defaid yn Sir Fôn sydd yn dod yn fuan! – golygydd cenedlaethol]
Ond ia, casglodd pobl ifanc o dros Gymru yn Doc Penfro i gael penwythnos preswyl. Hwn oedd y trydydd i mi, y cyntaf yng Ngogledd Cymru, lle penderfynodd pobl o Gasnewydd gymryd yn fy erbyn am ryw reswm. Roedd yr ail ym Mae Caerdydd, lle gefais fy nghosbi gyda chwpanau. Ond roedd hwn yn un od.
I fod yn deg, sylweddolais byddai fy ngwallgofrwydd yn cymryd drosodd y funud dois allan o gar fy nhad i gael ar y bws CLIC, gydag un o’r bobl oedd yn fy mhoeni gyda’r cwpanau arswyd o Bae Caerdydd yn dangos i mi ei bod wedi dod a chwpan gyda hi i’r un yma. Llawenydd. Nid yn unig hynny, dechreuodd ferch 11 oed (dwi’n meddwl dyna ei hoedran) ymosod arnaf wrth i ni ddisgwyl i bigo pobl eraill i fyny.
Do, cefais fy ymosod. Gan ferch ifanc. Gyda ffyrc plastig. Dyddiau da.
Ond, cyrhaeddom yn ddiogel yn y lle. Lle neis hefyd i fod yn deg. Fedrai ddim cofio os bu hi’n bwrw glaw yn ystod y penwythnos. Hmm.
Ddigwyddodd dim llawer y dydd Gwener hwnnw, heblaw am yr ymarferion torri’r garw (icebreakers) sydd yn codi ofn ar rywun. I fod yn onest dwi ddim yn deall ‘icebreakers’. Fedrai ddim disgrifio rhai ohonynt nawr, nag sut oeddem yn gwneud i bawb edrych fel eu bod yn mynychu sefydliad meddyliol (dim tramgwydd bwriadol yn erbyn pobl sydd ag unrhyw brofiad o sefydliad meddyliol).
Llwyddais i gael y can Love Machine (cân gan Girl’s Aloud) i mewn i bennau rhai pobl trwy chwarae o drosodd a throsodd ar fy bas, ond dweud y gwir, gall neb ddweud nad oes ‘grŵf’ i’r gân yna.
Ar y dydd Sadwrn, fe wnaethom 'stwff i CLIC’, ac aeth bob dim yn iawn. Fel bob tro, arhosais yn eithaf distaw yn ystod y rhan fwyaf ohono, yn gwrando ar y bobl fwy hyderus yn y grŵp a beth roedd ganddyn nhw i ddweud.
Ni aeth y gweithgaredd cerddorol yn dda iawn (i mi beth bynnag), wrth i mi gymryd fy bas a doedd gen i ddim syniad beth i wneud dros y cordiau roedd Paul (boi o Ynys Môn) yn chwarae (damia ti, capos). Ond, gweithiais allan beth roedd yn chwarae a chwaraeais y nodau bas gydag ambell llanw bob hyn a hyn. Dyna’r hwyl o fod yn ganwr bas, ynte?
O, a sut y gallwn i anghofio’r holl Mae Gan CLIC Dalent? Wel, fe wnes i, a dim ond nawr dwi’n cofio amdano. Ar y noson Sadwrn, pan benderfynodd yr haul ymweld â’n ffrindiau yn America, cafodd pobl gyfle i arddangos eu talentau, gydag amrediad o ddawnsio a chanu. Arhosa am funud, dwi newydd sylwi mai dim ond hynna oedd o. Dim ond canu a dawnsio. Ond ia, ar y cyfan doedd o ddim mor ddrwg â hynny. O leiaf golygai y byddwn yn colli’r X Factor yr wythnos honno, dyna esgus cythreulig am sioe.
Felly pam dwi wedi galw’r erthygl hwn yng Nghlefyd Traed a’r Gennau? Wel, ti’n gwybod y ferch ifanc yna ymosododd arnaf i ar y bws ar y ffordd i’r lle gyda ffyrc? Wel ar y dydd Sadwrn penderfynodd ymosod arnaf i eto. Y tro hwn gyda’i thraed.
Wel, y rhan fwyaf o’r amser roedd hi’n neidio arnaf i ac Elin (y pryfociwr cwpanau o Gaerdydd), ond ar adegau eraill roedd hi’n tylino’n wyneb gyda’i thraed. Dwi’n meddwl llwyddom gweld dim ond ychydig o ddrygioni y ferch yna, gan ei bod i ffwrdd yn ymosod ar Dan (is-olygydd theSprout) y rhan fwyaf o’r amser.
Ond oedd, mi roedd yn benwythnos preswyl iawn, i fod yn deg. Fe gyfarfuasai â rhywun arall sydd yn mynd i’r Atrium eleni hefyd. Woop.
Barod am y nesaf nawr ynte?
Nodyn golygydd cenedlaethol: Os ydy ein cath cŵl Is-Olygydd Crazy Distortion yn dweud “roedd o’n iawn,” gall warantu ei fod yn wych, ac yn sicr mae ymosodiadau ffyrc plastig gan rai 11 oed yn rai o natur gyfeillgar iawn, ac yn cael eu cadw i’r lleiafswm!
Eisiau ymuno gyda ni ar y penwythnos preswyl nesaf? E-bostia Kathryn Allen: kath@promo-cymru.org neu galwa 029 2046 2222.
Arhosom yng Nghanolfan Antur Sir Benfro, sydd efo golygfeydd syfrdanol dros yr Afon Cleddau.







