Adolygiad: Duran Duran
Mae'n noson oer yn fis Rhagfyr yn Arena Motorpoint Caerdydd, a dwi'n disgwyl am 'new romantics' eiconig i gynhesu fy ysbryd ychydig. Ac er eu bod yn eu 50au bellach, maent yn llwyddo gwneud hyn gydag arbenigedd nad allwn ddychmygu erioed.
Mae Simon Le Bon a'i gwmni yn amlwg wrth eu boddau, yn neidio drwy A View To A Kill, ac mae'r egni yn dal, yn lledaenu fel tân ymysg y gynulleidfa.
Efallai mai ffrwydrad llwyr y band ydyw, neu'r raffeg hudol sydd yn cael ei daflunio; neu efallai mai'r ffordd mae Le Bon yn dod oddi ar y llwyfan i gychwyn deuawd gydag aelod hap o'r gynulleidfa. Beth bynnag ydyw, mae'r perthynas sydd gan y band gyda'r gynulleidfa yn wych.
Mae'n glir gweld fod y nifer cannoedd oedd yno yn ddigon lwcus i fod wedi cael profiad o Duran Duran y tro cyntaf, ac fel dangosai’r Tweets ar y sgrin tu ôl i Roger Taylor, ymddangosai fod y mwyafrif ohonynt wedi cael eu trawsgludo yn ôl i'w harddegau, yn weindio'r tapiau casét yn ôl drwy The Reflex a Notorious.
Er hyn, roedd clywed nhw'n stormio trwy'r chwyddseinydd yr un mor foddhaus i glustiau fi fy hun.
Un o'r digwyddiadau mwyaf teimladwy oedd cyflwyno perfformiad Ordinary World i'r bêl droediwr a'r rheolwr bu farw yn ddiweddar, Gary Speed, ac roedd y perfformiad perffaith yn deyrnged eithaf.
Roedd penderfyniad y band i gynnwys hen ffefrynnau yn ogystal â deunydd newydd oddi ar yr albwm diweddaraf, All You Need Is Now, yn profi fod llwyddiant gwaelodol Duran Duran yn ddibynnol llwyr ar adfywiad parhaol cerddorol.
Noson wych, torf wych, band gwych. Ni all unrhyw garwr cerddoriaeth ofyn am fwy.
Tudalennau Celfyddydau Perfformio






