Adolygiad: Rock Rave Casnewydd
English version
Rock Rave. Beth yw e? Wel fe ddywedaf wrthyt.
Mae Rock Rave yn ddigwyddiad Urban Circle sydd yn darparu cerddoriaeth a pherfformiadau i bobl ifanc, gan bobl ifanc, a'r artist proffesiynol achlysurol.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar ddydd Gwener 25 Tachwedd yng Nghanolfan Hamdden Casnewydd,
O'r cychwyn cyntaf roedd cannoedd o bobl o ar draws Torfaen a Casnewydd, i gyd wedi dod i gael profiad o waith yr artistiaid anhygoel yma.
Cychwynnodd y noson gydag ychydig o DJ, Mr Mac Hurt, ac roedd cyflwynydd gelwir yn Shi. Roedd y perfformwyr yn cynnwys Flo Dem, E Estoria KH, The Trinity Band, Our Tomorrow a llawer mwy.
Roedd y gerddoriaeth o natur ysbrydoledig, yn ysbrydoli'r bobl ifanc oedd yno i ddangos cefnogaeth i'w etifeddiaeth gerddorol. Cawsom hefyd berfformiadau fel cystadleuaeth ddawnsio, a hyd yn oed sioe ffasiwn gan Brifysgol Casnewydd.
Yn y gymysgedd hefyd roedd gr?p o bedwar bechgyn: un rapiwr a tri 'beat-bocsiwr' talentog. Roedd ansawdd y perfformiadau i gyd yn Rock Rave o safon uchel. Roedd y mwyafrif ohonynt rhwng 12 a 25 oed.
Nid rave nac roc oedd arddull cerddorol y noson i ddweud y gwir, ond mwy o ddylanwad trefol a beth bynnag roedd y bobl ifanc yn teimlo fel perfformio. Tua hanner ffordd trwy'r noson cafwyd saib ble roedd criw'r bandiau yn clirio'r llwyfan ac yn paratoi am y perfformwyr nesaf.
Ar ôl y saib cawsom waith gan fand roc talentog, dilynwyd gyda deuawd eithaf doniol, yna ychydig o 'breakdancing' a BMXio, dilynwyd gyda chystadleuaeth ddawnsio arall, ac yna ychydig o hip hop a rapio.
Roedd y perfformiadau diwethaf yn eithaf meddal mewn natur, dwi'n dyfalu fod hyn i feddalu'r bobl ifanc fel eu bod yn gwerthfawrogi'r gân mwy. Roeddwn i'n meddwl fod y gerddoriaeth ar yr adeg yma yn brydferth ac yn ysbrydoledig.
Y perfformiad diwethaf i ddod ymlaen oedd gr?p gwych sydd yn chwarae tiwns gwych, dwi ddim yn cofio'u henw nhw, dilynwyd gyda TP (Twist & Pulse), o Britain's Got Talent.
Ar y cyfan roedd y digwyddiad yn noson dda ac yn hwyl i bawb oedd yn perfformio ac oedd yn bresennol. Roedd yr awyrgylch cyffredinol yn un hapus, gyda phobl ifanc yn gallu mynegi eu hunain yn rhydd a heb erledigaeth.
Heddwch i bawb, Eddie.
www.urbancircle.co.uk
Tudalennau Celfyddydau Perfformio






