Adolygiad: Russell Kane
Roeddwn yn atal y llawenydd tipyn pan wnes i ddarganfod fy mod yn mynd i weld Russell Kane.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, hyd yn hyn dim ond endidau teledu penodol ar-lein roeddwn i wedi'i weld yn ogystal â nifer raglen Freak Like Me ar y BBC a meddyliais, ia… mae'n eithaf doniol… mae'n eithaf fel… mae'n atgoffa fi o… ond hwn oedd ei unig ddyddiad yng Nghymru, felly pam ddim.
Ond, roedd y rhagdybiaeth ar fin cael ei wthio i'r neilltu wrth i Russell Kane ffrwydro i mewn i Golisiwm Aberdâr am noson wyllt, gynddeiriog (gyda llawer o ad-libio), anhygoel ac un fyddai'n achosi wlserau.
Gad i ni gychwyn yn y cychwyn. Ar ôl gyrru ddim yn bell o dŷ mam y cariad, ac ar ôl rhybudd iechyd cyhoeddus ganddi ("Ww, ti ddim eisiau mynd allan i Aberdâr… ww, pennau croen ofnus, ww") roeddwn i'n barod am y noson.
Yn dilyn taith eithaf ofnus dros fynyddoedd y Rhigos daethom i Aberdâr. Roedd yn edrych yn anhygoel yng ngolau'r nos, fel Royston Vasey cyfeillgar wedi'i groesi â Yosemite.
Argraff gyntaf o Aberdâr: del, neis, henaidd. Ychydig fel Y Bannau.
Mae'r Colisiwm ar gyrion y canol, mewn ardal breswyl ryfeddol o ddistaw, ond yn lleoliad gwych.
Y peth dwi'n caru am y Cymoedd ydy'r agwedd dim-ffriliau, gonest, cyfeillgar i fywyd, ac roedd y lle yma'r un peth. Cawsom ddiod yn eithaf hawdd, a gallet ti hyd yn oed fynd a dy ddiod i mewn gyda thi (J20 i fi syr gan fy mod i'n dreifio). Hyd yn hyn, da iawn.
Mae'r gynulleidfa yn gymysgedd o hipster ifanc, hen lawion a rhieni, gydag ychydig o'r frigâd crys siec wedi lluchio mewn hefyd, a joch go lew o liw haul ffug a Ralph Loren. Fe welais i'r golygydd CLIC, Ryan, yng nghanol pawb. [Dwi dal yn ceisio cael y staen Saint Tropez oddi ar fy Ralph Lauren siec – Ryan]
Rydym yn eistedd ac yn disgwyl i'r sioe gychwyn. Yn syndod roedd wedi dod ac act cynhesu gyda fo (dwi ddim yn cofio'r enw ar hyn o bryd) – ond i ddweud ei bod hi'n ddoniol, swynol, henaidd… dychmyga Daisy o Spaced yn gwneud comedi. Dilynwyd hyn gydag egwyl diod sydyn, ac yna roedd pawb yn ôl.
Iawn, mae'r diddordeb a'r disgwyliad yn tyfu…
Mae'r goleuadau yn pylu…
Mae llais yn gweiddi… "Please welcome Russell Kane to the stage"… "a nawr am y cyhoeddiad yma yn Gymraeg, "ghgcgchgghchhghggcccchhhhhhhh!" Dwi'n clywed sŵn sydd yn swnio yn debyg iawn i doiled yn fflysio. Roeddwn yn chwerthin fel merch ysgol fach ddrwg yn barod.
Dyma Russell yn stormio ar y llwyfan gyda steil gwallt newydd fel hanner 'Mohawk- buzz-cut', ac am ddyn eithaf bach roedd yn awdurdod ar y llwyfan yna fel Obama. Ar y pwynt hwn, mae'n rhaid i mi gyfaddef ei fod yn anodd cofio gormod o'r manylion ddilynodd. Gad i mi ddweud fel hyn wrth i'r gair 'C' gael ei ddweud am y tro cyntaf (tua 30 eiliad i mewn i'r sioe) – roedd y ddynes hŷn o'n Blaenau yn gafael yn dynn yng nghoes ei merch hŷn, a doedd yr un ohonynt yn chwerthin o gwbl am weddill y noson.
Ond ta bwys oherwydd erbyn hyn, roeddwn i chwerthin nerth fy mhen.
Cawsom jôcs am ei dad, am Gymru, am rhyw, am dyfu i fyny, am bornograffi, am arian, ychydig mwy am bornograffi ac ychydig mwy am ei dactegau caru a rhyw, i gyd yn cael ei drosglwyddo ar gyflymder sydyn ac, yn od, heb unrhyw un o'r eitemau uchod yn ymddangos yn rhy amrwd (ish).
Dwi'n gwybod fod y rhaglen restredig i fod yn sioe Sandcastles And Smokescreens, ond roedd hwn yn well. Yn fwy doniol. Yn fwy, wel, ymm, Cymraeg. Ar y cychwyn roeddwn i'n meddwl 'o, dyma ni, mwy o jôcs am y Cymry. Am ddoniol, ddim!' Ond fe lwyddodd i gael y cydbwysedd iawn ac fel Dominos, fe ddanfonodd.
Os wyt ti'n cael y cyfle, gwna'n siŵr dy fod yn cael dy docynnau yn fuan am Neuadd Dewi Sant ar ddydd Llun, 19 Medi. Roedd o'n anhygoel o ddoniol, a dwi'n deall na fydd y set yma yn cael ei ailadrodd nag ar y teledu. Roeddwn yn teimlo fy mod wedi bod yn dyst i rywbeth arbennig a, Mr Kane, dwi'n tynnu fy het i ti.
Fe laddais di o!







