Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ail Benwythnos Mawr CLIC!

Postiwyd gan cindyCLIC o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 31/12/2009 am 10:35
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Teithio, Chwaraeon a Hamdden, Pobl, Ysgrifennu Creadigol

  • resi
  • resi
  • resi

English version

Gyda gwefan CLIC ar ei newydd wedd yn cael ei datgelu’n derfynol ym mis Hydref, rydym unwaith eto yn dy wahodd i ymuno â ni i ddatblygu pethau ymhellach.

Mae’r wefan bellach yn caniatau i ti lwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i bawb ar draws Cymru.

Y cyfan sydd raid i ti ei wneud yw cofrestru ar-lein i gael enw defnyddiwr a chyfrinair i allu dechrau cyfrannu at y wefan.

Bydd y cyfraniadau i gyd yn cael eu safoni gan y golygyddion cyn ymddangos ar-lein.

Fel y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc (11-25) yng Nghymru, mae CLIC yn parhau i ddarparu gwyddoniadur o wybodaeth ddefnyddiol a cyfarwyddo at sefydliadau perthnasol i ofyn am gyngor a chymorth.

Rydym eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc i adolygu ac ailysgrifennu rhai adrannau o’r wybodaeth sy’n bodoli’n barod ac rydym yn cysylltu gyda nifer o sefydliadau.

Rydym am sicrhau bod yr wybodaeth yr ydym wedi ei rhoi i ti yn berthnasol, yn gywir ac yn hawdd ei deall ac mae arnom angen dy help DI i fynd â phethau at y cam nesaf.

Fe gwahoddir i ti ymuno â ni am ben-wythnos o weithgareddau hwyliog i ddatblygu’r wybodaeth hon gyda phobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru.

Dyddiad
Dydd Gwener 29 Ionawr 2010 – dydd Sul 31 Ionawr 2010

Lleoliad
Morfa Bay Adventure
West Park
Pendine
Sir Gaerfyrddin
SA33 4PQ

Amserlen ar gyfer y pen-wythnos

Dydd Gwener – cofrestru, dod i adnabod eich gilydd, cyflwyniad i CLIC, rhannu’n grwpiau
Dydd Sadwrn – Gwaith grŵp, gweithgaredd awyr agored, gemau
Dydd Sul – Gwaith grŵp, cadw mewn cysylltiad, gwerthuso, mynd adref

Ateber erbyn dydd Gwener 15 Ionawr 2010

I gael mwy o fanylion, cysyllta â Kathryn Allen ar 07840 153 720 neu ebostia kath@promo-cymru.org

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.