Alcohol Ddim Yn Esgus
Dyw Alcohol Ddim yn Esgus yw neges ymgyrch bwysig newydd a gyflwynir mewn partneriaeth sy’n cael ei lansio mewn cais i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â thrais yn y cartref sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Helpodd arwr rygbi Cymru a Gleision Caerdydd Martyn Williams i lansio’r cynllun a fydd yn cael llawer o sylw ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yr wythnos hon.
Mae alcohol a thrais yn y cartref yn aml yn gysylltiedig, ond y neges y tu ôl i’r ymgyrch, a gefnogir gan wefan gyfrinachol a llawn gwybodaeth yw nad oes fyth esgus am drais yn y cartref.
Mae ymgyrch Dyw Alcohol Ddim yn Esgus , sydd wedi ei hanelu at ddynion a merched o bob oed, yn anelu at annog pobl i feddwl am eu hagwedd a’u hymddygiad pan fyddant o dan ddylanwad alcohol ac i fanteisio ar y cymorth helaeth a gynigir.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn ceisio chwalu’r ystrydebau a’r rhagdybiaethau o amgylch trais yn y cartref, yn arbennig pan ddefnyddir alcohol fel esgus gan y sawl sy’n cam-drin neu’r dioddefwr.
Ymunodd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Rhondda Cynon Taf a Merthyr gyda’i gilydd i sicrhau cyllid o Gronfa Creu’r Cysylltiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal yr ymgyrch.
Mae’r partneriaethau yn cydgysylltu ac yn sbarduno ymdrechion yr holl asiantaethau sydd â rhan i’w chwarae mewn ymdrin â throsedd ac anhrefn, fel y cyngor, yr heddlu, swyddogion iechyd proffesiynol, y gwasanaeth tân a’r sector gwirfoddol.
Gan weithio ar ran yr holl asiantaethau o’r fath, bydd y Partneriaethau yn cyflenwi neges yr ymgyrch drwy gyfrwng hysbysebion, baneri, posteri, taflenni ac ymgyrchoedd wedi eu targedu mewn mangreoedd trwyddedig. Bydd hefyd yn rheoli gwefan sy’n cefnogi’r ymgyrch.
Lansiodd y seren o fyd chwaraeon Martyn Williams yr ymgyrch yn Uned Trais yn y Cartref Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Rhondda Cynon Taf yr wythnos hon. Meddai: “Rwy’n falch o fod yn cefnogi’r ymgyrch hon. Mae alcohol a thrais yn y cartref yn aml yn gysylltiedig â’i gilydd, ond mae’n rhaid i bobl ddeall nad yw alcohol yn esgus o gwbl.
“Nid oes unrhyw esgus dros drais yn y cartref. Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael, gan gynnwys yr uned arbenigol yr ymwelais â hi heddiw ac rwy’n pwyso ar y rhai hynny yr effeithir arnynt gan, neu sy’n pryderu am y mater hwn, i gysylltu a manteisio ar y cymorth helaeth sydd ar gael.”
Ychwanegodd Phil Bevan, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Rhondda Cynon Taf: “Mae’r ymgyrch hon yn un chwyldroadol oherwydd ein bod yn ceisio nid yn unig annog pobl i gael gwybodaeth a chymorth ond i newid y modd y maent yn meddwl am broblem.
“Yn aml mae digwyddiadau o drais yn y cartref yn cael eu hesgusodi gan y sawl sy’n cam-drin neu’r dioddefwr oherwydd alcohol. Nid yw dweud nad ydych yn taro eich partner ond pan ydych wedi cael diod neu ddwy yn esgus o gwbl.
“Os yw alcohol yn peri i chi arddangos ymddygiad o’r fath, hyd yn oed un waith yn unig, yna mae angen i chi feddwl am fanteisio ar y gwasanaethau cymorth a gynigir.
“Rydym wedi lansio www.alcoholisnoexcuse.co.uk yn benodol i apelio at y rhai hynny yr effeithir arnynt gan eu problemau. Mae am ddim ac yn gyfrinachol ac yn cynnig ystod eang o wybodaeth, cyngor a chanllawiau i’r rhai sydd angen cymorth.”
Meddai’r Cyng. Jeff Edwards, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Drwy’r ymgyrch hon, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful yn anfon neges glir, nad yw defnyddio alcohol fel esgus dros gam-drin yn y cartref yn ddewis o gwbl.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cymorth a chefnogaeth i wneud defnydd o’r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal.”
Gellir cael mwy o wybodaeth am alcohol yn yr adran wybodaeth.







