Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Amnest Cyllyll Ar Ynys Môn

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 10/02/2010 am 16:38
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes, Yn Gymraeg

  • Knives

English version

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal amnest cyllyll am 2 fis ar Ynys Môn i gefnogi gorymdaith er cof dyn 21 oed a laddwyd flwyddyn ddiwethaf.

Collodd Leon Jones ei fywyd yn Nhachwedd 2009 ar ôl cael ei drywanu yng Nghaergybi ac mae’r heddlu yn annog pobl i ildio’u cyllyll mewn ymdrech i gael gwared arnynt o strydoedd Môn.

Yn 2009 fe recordiwyd 13 o achosion o droseddau lle defnyddiwyd cyllyll ar Ynys Môn.

"Er bod trosedd yn ymwneud â chyllyll yn hynod o isel ar yr ynys, rydym yn ymwybodol fod y cyhoedd yn pryderu, ac mae'r ymgyrch hon yn gobeithio delio â'r pryderon hynny,” meddai’r Arolygydd Ardal, Nigel Harrison.

"Ar ôl y digwyddiad trasig yn ymwneud â Mr Jones, rydym yn awyddus i roi sylw i beryglon arfau ac rydym am i bobl drosglwyddo unrhyw eitem sydd yn eu heiddo, neu sydd yn eu cartrefi, a all achosi niwed.

"Mae gennym finiau gwaredu coch yn ein gorsafoedd yng Nghaergybi a Llangefni eisoes, ond gall pobl fynd â'u cyllyll hefyd i'n gorsafoedd eraill ym Mhorthaethwy, Gaerwen a Fali," ychwanegodd.

Cychwynnodd yr amnest ar y 5ed o Chwefror 2010, ar ddiwrnod yr orymdaith wedi’i drefnu gan Gronfa Leon Jones. Gorffennodd yr orymdaith gyda deiseb yn cael ei chyflwyno i’r Aelod Seneddol Albert Owen. Mae’r Gronfa yn cefnogi’r amnest.

“Hoffai'r Gronfa a'r teulu ddatgan eu diolch i bawb am eu cefnogaeth er mwyn ceisio tanlinellu'r pwysigrwydd o gael gwared â chyllyll oddi ar ein strydoedd,” meddai’r Cadeirydd David Hughes.

“Hoffem hefyd bwysleisio ein harwyddair - ‘Gollyngwch y gyllell - Arbedwch fywyd’ wrth annog pobl i gael gwared â'u cyllyll mewn bin amnest arbennig."

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn hefyd yn cefnogi'r ymgyrch.

“Un o flaenoriaethau allweddol y Bartneriaeth yw taclo troseddu treisgar, ac mae'r camau sy'n cael eu cymryd yn lleol i daclo trosedd yn ymwneud â chyllyll yn cael eu cefnogi'n gadarn gennym,” meddent.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sy'n cario cyllyll i gysylltu â swyddogion ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg), 0845 607 1002 (llinell Saesneg) neu Taclo'r Taclau'n ddienw ar 0800 555 111.

Gallwch hefyd anfon neges testun at 66767 neu e-bostio - northwalespolice@north-wales.police.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.