Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Amrywiaeth Corfforol Mewn Cartwnau

Postiwyd gan zippedlips o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 10/06/2012 am 08:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Iechyd, Pobl, Yn Gymraeg

  • img

English Version

Roeddwn yn edrych ar gylchgronau yn fy archfarchnad leol y diwrnod o’r blaen.

Roedd bron iawn pob cylchgrawn pinc wedi’i anelu at ferched ifanc (Sylwer: does dim o’i le ar gylchgronnau pinc i enethod, ond mae rhywbeth o’i le fod pob cylchgrawn genethod yn binc). Sylwais ar gylchgrawn o’r enw Monster High, cylchgrawn sydd wedi’i anelu at ferched ifanc sy’n wahanol. a magazine that is aimed at young alternative girls. Meddylais ei fod yn wych fod rhywbeth gwahanol ar gael.

Fodd bynnag, pan edrychais yn y cylchgrawn, cefais fy siomi i weld bod siāp corff pob cymeriad yr un fath. Felly cychwynnais edrych ar bob cylchgrawn, a sylwais mai prin oedd y cymeriadau nad oeddent yn denau. Nid oes dim o’i le ar gymeriadau tenau, ond mae rhywbeth o’i le os yw pob un yn denau.

Hyd yn oed wrth i mi gofio am gartwnau a chofio am ychydig o amrywiaeth ynddynt, maent yn cysylltu rhai mathau o gyrff ā phersonoliaethau penodol, sy’n creu stereoteipiau. Yn y cart?n Recess, yr unig ferched mawr a gofiaf yw Kirst the Worst a Miss Finister. Maent ill dwy yn galed ā chalon feddal. Yn y cart?n Weekenders, roedd unrhyw un nad oedd yn denau yn ddwl neu’n rhyfedd. Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain. Felly fe adawaf i chi feddwl am ragor neu fy herio.

Bydd pobl yn rhyfeddu fod cynifer o ferched ifanc yn ceisio colli pwysau. Dyna’r ateb i chi; mae rhai siapiau cyrff wedi’u portreadu fel rhai annymunol, felly maent yn teimlo’n wael amdanynt eu hunain. Ni chredaf y dylid atal plant rhag darllen cylchgronnau; credaf y dylai rhieni edrych trwy’r cylchgronnau a thrafod unrhyw faterion ā’u plentyn, fel y gwnānt ystyried, sylwi a herio.

Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad y cyfryngau.

Newyddion » Categorļau » Ffasiwn

TheSproutDirect.co.uk » Beat

Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Anhwylderau Bwyta

Erthyglau Perthnasol

LLUN: Karen Roe

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50