Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ar Draws Y Môr I Ganada

Postiwyd gan Katie_94 o Sir Benfro - Cyhoeddwyd ar 20/04/2012 am 09:53
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Pobl, Teithio

  • niagra

English version

Yn ystod Pasg 2011 fe wnes y siwrne dros Fôr yr Atlantig i Ganada ar gyfer gwyliau cyfnewid ysgol.

Gan gyrraedd am 2yb amser Prydain roedd pawb wedi blino'n lan. Cafodd cyngerdd ei roi ymlaen i groesawu ni. Yn lwcus roedd o mor uchel fel bod yr un ohonom wedi syrthio i gysgu. Wel, bron!

Cefais fy mhario gyda Mali. Arhosom gyda Shobha a'i theulu hyfryd a chael ein sbwylio yn lan, yn mynd a ni ar bob math o anturiaethau. Aethom i'r T?r CN, oedd yn lle perffaith am y lluniau gorau, roedd hyd yn oed llawr gwydr dros uchder gwirion bost.

Treuliom ddiwrnod yn eu hysgol nhw, oedd yn ddiddorol iawn, gan fod ffordd nhw o addysg yn wahanol iawn i un ni. Mae pawb yn sefyll ac yn canu'r anthem genedlaethol ar gychwyn y dydd. Fedra i ddim dychmygu canu Mae Hen Wlad Fy Nhadau bob bore!

Ond, roedd yn brofiad diddorol iawn. Yn ystod y nosweithiau roeddem yn mynd i'r sinema ac yn treulio amser gyda'u ffrindiau. Cawsom groeso mawr ac roeddent yn trin ni fel petaem wedi bod yno erioed. Yna symudom yn ein blaen i Niagra Falls oedd yn anhygoel. Roedd ei faint a'r s?n yn syfrdanol, rhywbeth sydd yn anodd rhoi mewn i eiriau.

Rhoddodd Canada'r cyfle i mi gyfarfod â ffrindiau anhygoel dwi dal mewn cysylltiad â nhw heddiw. Roedd yn wyliau mor llawn fel na fyddaf yn ei anghofio yn fuan iawn.

Tudalennau Byd, Ewrop, DU a Chymru

DELWEDD: paul (dex)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50