Ar Goll Mewn Gofal
Roeddwn yn wyth mlwydd oed pan es i ofal am y tro cyntaf.
Roedd yn sicr o ddigwydd yn fuan neu yn hwyr oherwydd roedd fy mam yn yfwr trwm, yn un oedd yn cam-drin ei hun ac yn fam sengl. Gadawodd dad (os gallaf ei alw yn hynny) fi a mam – a’r teulu cyfan o ran hynny – pan oeddwn i’n ddim ond babi, ond alla’ i ddim dweud nad ydw i’n dal i garu fy mam.
Roeddwn yn byw yn wreiddiol ar Ynys Manaw gyda fy mam ac roedd hi bob amser yn cael help gan fy nain a’m taid, sydd wedi ein cefnogi drwy bopeth yr ydym wedi bod drwyddo (dwn i ddim ble y bydden ni heb eu cymorth nhw), cyn symud i fyw i Gaerdydd.
Cymerwyd fi oddi wrth fy mam gan yr heddlu ac yna cefais fy rhoi mewn gofal maeth.. Bûm yn byw i ddechrau gyda fy hen brifathro ger Parc y Rhâth. Roedd yn hwyl i raddau ond yn amlwg byddai wedi bod yn well gen i fod yn byw gyda fy mam.
Yna symudais i fyw gyda fy ffrind gorau. Am wythnos yn unig yr oedd hyn i fod ond yn y pen draw bum yno am y rhan orau o flwyddyn. Yna ymhen tipyn symudais i’r lle rwy’n byw ynddo ar y funud, ac rydw i wedi bod yno ers 2004 – felly chwe blynedd bellach.
Rwy’n hapus iawn yma ond byddai’n well gen i fod yn byw gyda fy mam o hyd. Trwy gydol fy chwe blynedd rydw i wedi cael amser digon anodd: Rwy’n cofio crio fy hun i gysgu un noson ar ôl y llall oherwydd fy mod yn colli fy mam gymaint. Yna aeth hi i’r ysbyty (yn feddw, wedi cael gorddos a chafodd ffit). Pan es i’w gweld hi doedd hi ddim yn ymddangos yr un fath, fe addawodd roi’r gorau i yfed cymaint ag yr arferai wneud, a chadwodd yr addewid honno..... am dipyn.
Wnes i erioed grio cymaint â phan ddaeth llythyr oddi wrthi, yn dweud wrthyf: “Rydw i mewn lle na fyddi’n gallu fy ngweld ar y funud, ond cofia fe fydda’ i yn dy garu di bob amser”. Ffoniodd fi i egluro ei bod mewn ysbyty adfer, ond anwiredd oedd hyn a doedd hi ddim eisiau fy ypsetio. Roedd hi mewn gwirionedd wedi meddwi, wedi'i harestio ac yn y diwedd rhoddwyd hi mewn carchar i ferched filltiroedd y tu allan i Gaerdydd (rywle yn Lloegr).
Wedi iddi ddod allan dechreuodd pethau glirio. Rhoddwyd caniatâd i mi ei gweld yn llawer mwy aml hyd nes dechreuodd yr yfed eto, a ddilynwyd gan yr hunan gam-drin. Fe neidiodd allan o ffenestr hyd yn oed i geisio diweddu'r cyfan. Methodd a thorrodd ei throed. Dywedodd rhywun wrthyf ei bod wedi gollwng wardrob ar ei throed a dyna lle roeddwn i - bachgen ifanc diniwed - yn credu popeth yr oedd pobl yn ei ddweud wrthyf.
Rwy’n cael cyfarfodydd bob rhyw ychydig o fisoedd gyda fy ngofalwr maeth, mam a gweithwyr cymdeithasol i roi trefn ar bethau yr ydw i eisiau iddyn nhw ddigwydd. Fe drïais weld a allwn fyw gyda hi eto. “Na” medden nhw o hyd. Os af yn ôl ati fe fyddan nhw yn mynd â hi i’r llys ac yn ei rhoi yn y carchar, a dydw i ddim am i hynny ddigwydd eto. Felly dyma fi yn dal mewn gofal yn disgwyl am y dydd y gallwn efallai fyw gyda fy mam unwaith eto. Ond rydw i’n meddwl fwy a mwy: “Fydd y diwrnod hwnnw fyth yn dod?”
Mae pobl sy’n dweud wrthyf na allaf fyw gyda fy mam oherwydd nad yw’n ddiogel yn fy ypsetio’n fawr. Rydw i’n ymddiried yn fy mam ac yn caru fy mam yn fwy na dim ond mae clywed hynny yn torri fy nghalon yn llwyr. Arferwn gloi fy hun yn yr ystafell ymolchi, fel na allai unrhyw un ddod i mewn, a chrio a chrio. Ydy, mae’n anodd iawn bod mewn gofal ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ddysgu byw gydag ef.
Mae gen i gefnogaeth pryd bynnag y bydd arnaf ei angen gan weithwyr cymdeithasol, fy ngofalwr maeth a theulu maeth, ffrindiau, athrawon a hefyd mae fy mam yn dal i’m helpu drwy lawer o bethau. Rydw i’n gallu siarad â hi unrhyw adeg. Er nad yw hyn yr un fath â byw gyda hi, fe fyddaf yn dal i allu byw drwyddo.
Mae fy mam yn brwydro i’m cael yn ôl ond y ddiod sy’n ei dal yn ôl. Mae hi wedi trio cymryd y tabledi yr ydych yn eu cymryd sy’n eich stopio rhag yfed, ond os ydych yn cael diod gyda nhw rydych yn mynd yn wirioneddol sâl – fe yfodd hi ar ôl cymryd tabled a rhuthrwyd â hi i’r ysbyty, ond o leiaf mae hi’n dal gyda fi heddiw.
Ffoniodd fy mam fi un noson a dywedodd ei bod yn gadael i fynd adref (Ynys Manaw) felly fe ollyngais y ffôn, rhedais i lawr y grisiau a beichio crio. Heb fy mam gyda mi dydw i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd, mae arna’ i ei hangen i’m cefnogi fel mae hi’n gwneud. Cododd fy mam faeth y ffôn a siaradodd â hi ac yna daeth i fyny’r grisiau a’m cofleidio. Cawsom sgwrs a gododd fy nghalon ychydig a dywedodd nad oedd fy mam yn gadael. Roedd mam wedi meddwi pan oedd yn siarad â mi, ond wna’ i ddim anghofio faint wnes i grio’r noson honno.
Dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud bellach i fod yn onest. Dydw i ddim wedi gweld fy nheulu ers blynyddoedd, ac mae fy mam yn dal i yfed yn drwm ar y funud. Er bod gen i deulu maeth i’m cynnal, dydw i’n dal ddim yn gwybod beth i’w wneud. Rwy’n dal i gofio’r diwrnod y daeth yr heddlu i mewn a’m cymryd oddi wrth fy mam. Rwy’n dal i ypsetio fy hun dros hynny nawr, ond dyna fy mywyd i mae’n debyg ac mae’n rhaid i mi ddal ati. Ond cyhyd ag y bydd fy mam gyda mi yma, yna does yna ddim byd yn mynd i’m tynnu i lawr!
Felly dyna fy mywyd ar y funud ac rydw i’n dal mewn gofal ac fe fyddaf am ddwy flynedd arall. Rwy’n siŵr y gallaf fynd drwy’r ychydig flynyddoedd olaf hyn ac rydw i’n dal i freuddwydio am y dydd y byddaf yn gallu bod gyda fy mam eto.
Os effeithiwyd arnoch gan unrhyw rai o’r materion yn yr erthygl hon, gallwch alw ChildLine am gymorth ar rif ffôn rhad 0800 1111.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o’r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn yr erthygl hon, ewch i’n hadran Gwybodaeth drwy glicio ar unrhyw rai o’r dolennau yn yr erthygl.
I weld yr adran Gwybodaeth am fod mewn gofal, gan gynnwys pethau pwysig y dylech eu gwybod am eich hawliau, cliciwch yma
Os teimlwch nad yw eich barn am fater sy’n effeithio arnoch chi yn cael y sylw a haedda, neu os hoffech gael cyngor a rhywun i siarad â nhw cofiwch y gallwch bob amser gysylltu â Meic yn gwbl gyfrinachol.
DELWEDD: Maddy Lou







