Arwr Cymraeg?
English version
Dwi wedi bod i weld drama am fywyd David Lloyd George yn Theatr Glan yr Afon.
Pwy oedd David Lloyd George?
Yr unig beth wyddwn i oedd mai gwleidydd Cymraeg gwallt gwyn fu'n Prif Weinidog yn yr 2il ganrif gynnar oedd ef, er bod y mwyafrif o bobl yn ei gamgymryd am Einstein oherwydd ei wallt hir, gwyllt, gwyn.
Oes gennym ni ddiddordeb mewn gwleidyddion? Yn gyffredinol, mae gan bobl farn ddrwg o wleidyddwyr ac yn meddwl amdanynt fel rhai llygredig a hunan cyflenwol. Y pwynt diddorol ydy mai ef yw'r unig Brif Weinidog oedd yn siarad Cymraeg oedd yn dod o gefndir cyffredin i ddod yn un o'r dynion mwyaf pwysig yn ei ddydd.
Agorodd y ddrama gyda dyn ar fainc. Roedd y llwyfan yn wag heblaw am y dyn a'r fainc. Roedd y dyn wedi'i orchuddio yn gyfan gwbl mewn Jac yr Undeb; dyma Lloyd George. Oedd hyn yn symboleiddio ei fod yn frwydr rhwng ei hunaniaeth Cymraeg a bod yn Brif Weinidog Prydain?
Roedd y ddrama mewn ffurf monolog, golygai hyn mai dim ond un actor oedd ar y llwyfan ac roedd yn chwarae Lloyd George a chymeriadau eraill. Mewn monolog efallai bydd yr actor yn siarad â'r gynulleidfa.
Roedd y ddrama yn ei ddychmygu mewn cyrchfan Glan-y-môr yn Ffrainc ac mae'n edrych yn ôl ar ei fywyd, personol a gwleidyddol. Er bellach yn hen ddyn, mae'n parhau i fod â llygaid am ferch brydferth. Yn ystod y ddrama mae'n chwifio ar unrhyw ferch Ffrangeg sydd yn dal ei lygaid, tra roedd ei wraig yn disgwyl yn y gwesty lleol.
Mae Lloyd George yn cychwyn trwy ddisgrifio ei fagwraeth a sut cafodd ei fagu gan deulu ei ewythr. Roedd ei ewythr yn ddylanwad mawr ar ei ragolwg a'i yrfa. Roedd yn annog iddo gymryd diddordeb yn y gyfraith a gwleidyddiaeth. Roedd yn dod o gymuned Cymraeg ei hiaith, agos iawn a mewnol oedd yn foesol iawn ac yn ymwybodol o statws.
Roedd y cefndir yma yn fyglyd iawn iddo. Efallai mai dyma pam dreuliodd mwyafrif o'i fywyd hwyrach yn Lloegr er ei fod wedi cadw ei gartref yng Nghymru. Priododd un o'r merched lleol. Roedd ei berthnasau gyda merched eraill yn achosi nhw i fyw bywydau weddol ar wahân. Roedd ei rôl fel gwleidydd parchus iawn yn croestynnu gyda'r bywyd roedd eisiau byw.
Heddiw byddai ei berthnasau dros y papurau newydd i gyd, ond yn y cyfnod hwn roedd yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Roedd yn ffrindiau gyda golygyddion papurau newydd pwysig oedd yn helpu i gadw ei fywyd personol yn gyfrinach. Roedd y cyfeillgarwch yma yn achosi pryder gan ei fod yn gwobrwyo nhw gyda theitlau.
Gwnaeth lawer o bethau pwysig mewn gwleidyddiaeth, fel cyflwyno pensiynau a lleihau grym T?’r Arglwyddi di-etholedig. Roedd yn ddiwygiwr cymdeithasol yn awyddus i wella bywyd y bobl gyffredin. Yn ystod y rhyfel roedd mewn amryw swydd yng nghabinet y rhyfel nes iddo ddod yn Brif Weinidog yn 1916.
Roedd yn Brif Weinidog nes 1922 ac fe basiodd y Cytundeb Gwyddelig a'r bleidlais i ferched. Ar ôl hynny daeth ei yrfa bron i ben ar ôl etholiad drwg. Ei gyfraniad mawr diwethaf oedd araith i'r T? Cyffredin yn ystod dadl am yr ymgyrch Norwy fu'n aflwyddiannus yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y ddrama hon yn addysgiadol iawn ac yn dyfnhau fy nealltwriaeth o’r arwr Cymraeg yma. Ond doedd y ddrama ddim wedi llwyddo denu cynulleidfa ifanc, yr unig bobl fydd yn ei gofio bydd y genhedlaeth h?n
Roedd yr actor yn edrych ac yn chwarae'r rhan yn dda. Ond yn y siarad wedi'r ddrama dywedodd nad oedd yn ceisio dynwared George ond i greu argraff o sut gallai fod.
Sut ydym ni yn gweld Lloyd George? Yn ei gyfnod ef roedd pobl efo barn gymysg amdano, nid oedd pawb yn Gymru yn ei hoffi gan fod llawer yn meddwl gallai fod wedi gwneud mwy dros Gymru.
Pam nad ydym yn ei addoli fel Churchill, am mai ef enillodd yr Ail Ryfel Byd, ond Lloyd George enillodd y Rhyfel Byd Cyntaf?








