Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Awr Ddaear 2012

Postiwyd gan Gareth CLIC o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 30/03/2012 am 09:58
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Amgylchedd

  • earth

English version

Mae'n debyg dy fod di'n gwybod hyn yn barod, ond mae yna tua chwedeg munud ymhob awr, fwy neu lai, heblaw am ryw eiliad naid neu ddau bob hyn a hyn…

Ond mae rhywbeth arbennig am awr benodol ar ddydd diwethaf Mawrth.

Y funud mae'r cloc digidol yn taro 8:30 ar nos Sadwrn 31 Mawrth 2012, mae'n amser i dynnu'r plwg, ac ymuno Cymru a'r byd yn yr Awr Ddaear, syniad syml sydd wedi troi mewn i ffenomenon byd eang.

Heno, bydd cannoedd a miloedd o bobl yn troi'r goleuadau i ffwrdd, yn bennaf i guddio'r siom o wylio Britain's Got Talent, ond yn fwy na hynny, i ddod a phobl at ei gilydd i ganolbwyntio ar y byd rydym i gyd yn rhannu ac angen amddiffyn – y Ddaear. Ti'n gwybod, yr un ti ar nawr. Os nad wyt ti ar Mars, ac os felly, fe ddyla’ ti gael cysylltedd Wifi gwell na finnau. Lwcus.

O gysidro fod, ti'n gwybod, bydd y mwyafrif ohonom yn byw ar y blaned yma nes i ni farw, mae angen i ni edrych ar ffyrdd i wella iechyd y Ddaear. Ia, dwi ddim yn dweud fod un awr heb olau'r flwyddyn am ddatrys popeth yn berffaith.

Angen gwybodaeth bellach neu eisiau cofrestru i ddangos dy gefnogaeth, cer draw i wefan Awr Ddaear WWF. Dwi'n gwybod fod hyn yn fyr rybudd ond gwell hwyr na hwyrach.

Gwybodaeth - Amgylchedd

A oedd y (wybodaeth) hyn defnyddiol i chi?

[nid a yw'n dda, ond oedd o ddefnydd]

     

Diolch am dy help!

Mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi.

Mae drwg gennym am nad oedd y wybodaeth am ddefnydd

A allwch chi sbario eiliad i ddweud pam?


Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50