Balchder 50 Ceiniog
Mae gen i stori i ddweud y gallet ddweud dwi’n falch ohono.
Symudais i yma i Gymru yn ddiweddar o Swydd Efrog, a gweld fy hun yn dod o fywyd dinas fawr i gefn gwlad brydferth Sir Benfro a Cheredigion.
Yn ôl yng ngaeaf eira oer Swydd Efrog, fe wnes ddarganfyddiad eithaf gwych, Roeddwn wedi ceisio mewn cystadleuaeth yn cael ei gynnal gan y Bathdy Brenhinol yng Nghaerdydd i ddylunio darn arian 50 ceiniog wedi’i selio ar y gystadleuaeth Olympaidd beicio.
Roedd y gystadleuaeth yn berffaith i mi, gan fy nau hoff beth i wneud ydy beicio mynydd a threialon, a dwi hefyd yn dipyn o adict arlunio.
Ar ôl disgwyl yn hir am tua phedwar mis, lle roeddwn wedi anghofio am y gystadleuaeth, cefais alwad i mewn i siarad gyda phennaeth fy mlwyddyn. Roeddwn i’n meddwl mod i mewn trafferth i ddweud y gwir…
Yna daeth y newyddion. Roeddwn i ar y rhestr fer. Roeddwn wedi synnu’n hollol! Roeddwn hefyd yn cadw mewn meddwl fod rhaid i’r ymgeision eraill fod yn dda iawn a byddwn yn cystadlu yn erbyn cystadleuaeth galed. Roedd disgwyl hir unwaith eto, oedd yn teimlo fel ei fod yn mynd ymlaen am byth i weld pwy oedd y gwir enillydd.
Yn ystod fy arholiadau ffug TGAU, cafodd fy rhieni eu galw i mewn i siarad efo pennaeth yr ysgol. Dywedwyd wrthyf mai’r rheswm am hyn oedd dweud wrthynt am fy agwedd da ac adroddiad gwych yn yr ysgol (roedd hynny wedi synnu fi).
Y gwir reswm am yr ymweliad oedd am eu bod yn cael gwybod fy mod wedi ennill! Y rheswm am gadw hyn yn gyfrinach oddi wrthyf am ryw dair wythnos oedd am nad fyddwn i byth wedi canolbwyntio ar fy arholiadau yn gwybod fy mod wedi ennill y gystadleuaeth anferth hon.
Ychydig wedyn roedd Dave, cyfarwyddwr o ddarnau arian coffaol, yn fy ysgol gyda nifer o staff pwysig eraill. Roedd hyd yn oed Newyddion y BBC yno.
Hysbyswyd i’m cyd fyfyrwyr fod y gwasanaeth canlynol yn mynd i fod yn wasanaeth cyflwyno arbennig a bod disgwyl sylw yn y wasg, ac roeddent wedi cynhyrfu’n lan. Roedd rhaid i mi gadw popeth yn gyfrinachol gan fy mod wedi arwyddo’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol yn addo peidio dweud wrth neb rhag ofn i’r wasg gael gafael ar y stori.
Yn fuan wedyn roeddwn yn sefyll o flaen yr ysgol i gyd ac yn cael fy ngwobrwyo fersiwn aur o’r darn arian 50 ceiniog newydd ddyluniad a siec i’r ysgol am ddeg mil. Cefais hefyd trip gyda phopeth wedi’i dalu i ymweld â, a chael taith lawn o amgylch y Bathdy Brenhinol yng Nghaerdydd.
Roedd pawb yn llonni, y tro cyntaf i hyn ddigwydd erioed mewn gwasanaeth yn fy ysgol. Golygydd hynny llawer i mi,
Roedd gweddill y diwrnod yn llawn cyfweliadau newyddion, radio a phapurau newydd. Roedd yr holl beth mor afreal. Fe wnes i ffŵl ohonof i fy hun ar radio byw, codi cywilydd ar fam ar y teledu a llwyddo i gael y treialon beicio bach ar y newyddion. Yn gyfan gwbl roedd yn ddiwrnod hynod o epig.
Y noson honno, ceisiais Googlo fy enw a daeth hyn a nifer rhyfeddol o dudalennau i fyny i gyd yn cynnwys lluniau a fideos ohonof.
Dwi’n bwriadu defnyddio fy £1000 arian gwobr i wneud adran beicio treialon yn y parc lleol lle oeddwn i’n arfer byw. Fe fwynheais wneud y dyluniad i’r cwrs treialu yn fawr iawn a threfnu popeth arall efo ffrindiau sydd hefyd yn goffi’r sbort.
Felly yndw, dwi’n eithaf balch o hynna, meddwl y byddwn i’n ei rannu a byddwn wrth fy modd yn dod yn rhan o bopeth sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru. Fe ddylaf fod yn mynychu Coleg Sir Benfro i wneud Tystysgrif Genedlaethol mewn dylunio (yn ddibynnol ar fy ngraddau).
Er y gwir reswm dwi wedi ysgrifennu hwn ydy i annog y rhai sydd ddim yn siŵr am rywbeth i fynd ati a’i wneud a dilyn dy freuddwydion. Trwy gydol fy mywyd dwi wedi breuddwydio am fod yn uchel yn y byd dylunio, a nawr dwi’n teimlo un cam yn agosach ato.
Mae ennill y gystadleuaeth hon wedi helpu fi gymaint ef fy hyder ac agwedd ar fywyd. Roeddwn i yn wreiddiol yn byw bywyd diflas diawen ond, diolch i’r Bathdy Brenhinol a’r Gemau Olympaidd 2012, mae wedi newid 100%.
Felly cadwa olwg am y darn arian beicio ddylai fod allan ym mis Medi, gyda chymeradwyaeth Ei Mawrhydi!











