Blog Lluniau Newydd
Cyn i mi ddechrau siarad am bethau eraill, sori fod fy nyluniad ar gyfer rhifyn dau o’r CLICzine yn hwyr. Dwi wedi bod yn brysur efo coleg.
Dyma ddyluniad cymeriad i Portia o’r tîm CLIC. Dyna’r unig beth rydw i am ddangos i ti hyd yn hyn. Rhaid i ti ddisgwyl i weld y CLICzine pan fydd wedi’i gwblhau, sori!
Hefyd mae lluniau eraill wedi’i llwytho i fyny o dwdls fe wnes i ar gyfer cyflwyniad yng ngholeg. Fe wnes i thema allan o’r llun o’r enw prydferthwch organig. Dwi’n gobeithio byddet yn ei hoffi. Mae rhai ohonyn nhw yn ychydig yn ‘doji’ achos nes i ddim rhoi gên ar y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Thema'r lluniau yma oedd organig a synthetig, felly dyma fy sgetsau ar eu cyfer. Yn y llun diwethaf – sori mae o yn rili drwg – fe gymerais tuag awr ar y llygaid. Ond dydy o heb droi allan mor dda â llygaid eraill dwi wedi’i wneud.
Mae fy lluniau i gyd wedi’i gwneud gyda beiro ac wedyn wedi cael eu golygu ar Photoshop.
Dwi’n gobeithio dy fod yn eu hoffi – plîs gwna sylwadau!
Yn olaf, fedrai ddim disgwyl am y preswyl cynllunio CLIC nesaf! Gyda llaw, ahem, syniad fi oedd o achos dwi’n anhygoel. Fedrai ddim disgwyl i weld chi gyd yn fuan!









