Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Canolfan Tŷ’r Ysgol Caernarfon

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 08/12/2009 am 11:35
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Gwaith a Hyfforddiant, Yn Gymraeg

  • Canolfan Tŷ’r Ysgol Centre Caernarfon
  • Ty Ysgol

English Version

Mae canolfan galw heibio a gwybodaeth wedi agor i bobl ifanc yng Nghaernarfon.

Mae Tŷ’r Ysgol yn ganolfan arbennig i bobl ifanc 11 i 25 oed. Yno gall ddefnyddio cyfrifiaduron,cael taflenni gwybodaeth am bethau o ddiddordeb i ti ac mae sesiynau galw heibio yno hefyd. Mae hyd yn oed ystafell fyw a chegin yno i ti gael gwneud panad tra ti yno.

Mae’r adeilad wedi ei leoli tu ôl i’r clwb ieuenctid ym Mhenrallt.

Mae’r ganolfan yna i ti ddefnyddio diolch i Gwmni Ifanc Tŷ’r Ysgol sydd wedi bod yn gweithio yn galed ers 2003 i agor y fath yma o le i bobl ifanc Caernarfon a’r ardal. Prynwyd yr adeilad 7 mlynedd yn ôl yn 2002 ac maent wedi bod yn ceisio am grantiau ers hynny.

Mae dwy ystafell wely i fyny’r grisiau gyda lle i 10 gysgu. Gall godi arian i redeg y ganolfan o’r rhain drwy adael i grwpiau o bobl ifanc sydd yn ymweld yr ardal gydag amryw sefydliadau aros.

Mae sesiynau Camddefnydd Sylweddau a Want to Work yn cael eu cynnal yno a gall alw heibio unrhyw amser am wybodaeth. Maent hefyd yn trio denu sefydliadau gwahanol i redeg sesiynau felly mae’n syniad da i gysylltu gyda’r ganolfan i ffeindio allan beth sydd yn digwydd yno unai wrth alw heibio neu drwy roi galwad i Mel Jones y rheolwr ar 01286 672045.

Mae’r ganolfan ar hyn o bryd ar agor ar ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener o 9yb tan 4.30yh trwy’r flwyddyn.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.