Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cawl San Steffan

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 26/12/2011 am 17:05
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Bwyd a Diod, Pobl, Materion Cyfoes

  • boxing

English version

Dyma rysáit ar gyfer Cael Dydd San Steffan, ac mae'n Hawdd Iawn Iawn i wneud, yr unig beth sydd angen ydy'r cig a'r llysiau sydd ar ôl o'r cinio Nadolig, felly dyma'n union beth fyddi di angen a sut i'w wneud.

Bydd angen:

  • 1 pot coginio mawr gyda chaead (sosban bwysedd yw'r gorau)
  • 50ml o Olew olewydd hynod-goeth (bydd unrhyw olew coginio yn iawn)
  • Ychydig o fenyn (tua 1 llwy de)
  • 2 nionyn coch maint canolig (wedi'i ddeisio)
  • 2 clof garlleg (wedi'i wasgu a'i ddeisio)
  • Unrhyw lysiau sydd ar ôl (moron, tatws, rwden, brocoli, blodfresych, panasen, cennin (y Sprouts ofnadwy yna), bresychen ac unrhyw beth arall sydd ar ôl)
  •  Tua 300-500 gram o dwrci sydd ar ôl (neu unrhyw gig sydd ar ôl ac sydd ddim yn cael ei ddefnyddio fel cig oer) (i lysieuwyr paid defnyddio cig)
  • 1 ciwb OXO llysiau, 1 ciwb OXO cyw iâr a 1 ciwb OXO cig eidion (cyw iâr a chig eidion ar gyfer cael llawn blas cig, felly os ddim yn defnyddio cig defnyddia 3 ciwb llysiau OXO yn lle hyn)
  • 1 litr dd?r poeth (nid berwedig)
  • 1 ffon gymysgu neu brosesydd bwyd

Dull

  • Yn dy bot mawr, rho'r olew a'r menyn a chynhesa
  • Ychwanega'r nionod a'r garlleg, ffrio yn ysgafn nes yn feddal
  • Ychwanegu d?r poeth a crymblo'r ciwbiau OXO
  • Mudferwi am 10 munud
  • Wrth i'r pot mudferwi torra'r llysiau i mewn i ddarnau 1 modfedd
  • Ychwanega'r llysiau i'r pot a chymysgu yn dda
  • Mudferwi am 20 munud (nes bydd y llysiau wedi dechrau torri i lawr a'r d?r yn dechrau tewychu
  • Ychwanegu'r cig (os yn defnyddio)
  • Gadael iddo ferwi ac yna mudferwi ar wres isel iawn am awr
  • Ychwanegu halen a phupur i flas
  • Gadael iddo oeri a'i gadw yn yr oergell dros nos (bydd hyn yn helpu'r blasau gymysgu a dwysau)

Y Bore Canlynol

  • Defnyddio’r ffon gymysgu (neu brosesydd bwyd) nes bydd y cawl yr un trwch â Readybreak neu uwd
  • Dychwela i'r gwres a'i ferwi'n araf (yn cymysgu yn aml i atal ef rhag cydio ar waelod y sosban.)
  • Gadael iddo fudferwi ac yna blasu (os oes angen halen neu bupur yna ychwanega)

I Serfio

  • Rho glwmp o hufen tew dros ben i mewn i waelod bowlen cael (dewisol)
  • Rho'r cawl drosto (dwy lwy cawl canolig i bob bowlen)
  • Gall roi parmesan drosto (dewisol)
  • Serfio gyda rhôl bara cynnes ffres (dewisol)


A mwynha!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50