Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

CCUHP: Camau Plant

Postiwyd gan UNCRC/CCUHP o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 19/09/2011 am 14:24
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg

English Version

Cofio fideo Geiriau Cywir, Trefn Anghywir postion ni wythnos diwethaf? Wel rydym ni nol unwaith eto gyda fideo grêt arall.?

Enw’r fideo hwn yw Camau Plant. Mae’n cychwyn gyda cherdd yngl?n â dyn drwg cyn troi mewn i hanes cryno o at CCUHP Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a pam y mae’n bwysig ac yn syml, yn grêt.?

Mae’r CCUHP yn gytundeb rhyngwladol sy’n diogelu hawliau dynol pobl o dan yr oedran 18 a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i’w llwyr fabwysiadu a’i rhoi ar waith drwy lunio polisïau. Mae yna 42 rhan enfawr iddo sy’n uniongyrchol cysylltiedig â phobl ifanc (gallwch chi weld y rhain i gyd fan hyn) a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn hollol amlwg ond nid ydy hynny’n meddwl nad ydynt yn bwysig neu yr ellir eu hanwybyddu.?

Mae’r fideo yn dod o’r gwefan Gwneud Pethau’n Iawn sef adnodd enfawr i athrawon a gweithwyr ieuenctid i ledaenu’r neges yngl?n â CCUHP. Penderfynom ni i ddewis rhai o’r rhannau mwyaf diddorol a’u postio fan hyn ar CLIC. Cadwch eich llygaid yn agored am ragor o fideos a ‘widgets’ rhyngweithiol dros y pythefnos nesaf.

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50